<p>Ariannu Addysg Uwch yng Ngogledd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:55, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ddoe ddiwethaf, roedd yr Aelod ar ei thraed yn nodi pryderon dilys ynglŷn â cholli swyddi yn ei hetholaeth ym Mhrifysgol Bangor, ac rwy’n siŵr y bydd wedi cael sgyrsiau gydag is-ganghellor y brifysgol dan sylw ynglŷn â’r angen i ymateb i’r sefyllfa a welwn dros y ffin yn Lloegr wrth i’r ffioedd gynyddu, a’i benderfyniad i sicrhau bod Bangor, sydd wedi cael y wobr uchaf yn y fframwaith rhagoriaeth addysgu yn ddiweddar, yn gallu cystadlu â myfyrwyr y DU a myfyrwyr rhyngwladol. Hola’r Aelod ynglŷn â gwerthoedd. Mae’r pecyn a gyflwynais ddoe—[Torri ar draws.] Mae’r pecyn a gyflwynais ddoe, a fydd yn dargyfeirio cymorth y Llywodraeth oddi wrth dalu ffioedd sy’n rhaid i raddedigion eu talu drwy eu cyflogau, i gefnogi’r hyn y mae llawer o fyfyrwyr a llawer o rieni yn dweud wrthyf yw’r broblem fwyaf, sef y costau a delir ymlaen llaw, yn becyn rwy’n falch ohono ac mae’n becyn sy’n cyd-fynd yn dda â fy ngwerthoedd. Nid wyf yn siŵr beth yw’ch rhai chi.