<p>Ysgolion Bro</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 12 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:09, 12 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, a gaf fi gywiro’r Aelod? Nid wyf yn cynrychioli un o etholaethau gwledig mwyaf y Cynulliad hwn; rwy’n cynrychioli’r etholaeth wledig fwyaf, yn ddaearyddol, yn y Cynulliad hwn. Dyna pam fod gennyf ddiddordeb dwfn yn y pwnc hwn. A dyna pam fod fy mhrofiad blaenorol fel aelod o’r meinciau cefn wedi sicrhau fy mod yn benderfynol y gall y Llywodraeth hon symud ymlaen ar fater ysgolion gwledig. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r atebion a roddais yn gynharach. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori ar y cod trefniadaeth ysgolion er mwyn sefydlu rhagdybiaeth yn erbyn cau. Ond o ran cyllid, bydd yn ymwybodol o’r grant arbennig a ddatblygwyd, o £2.5 miliwn y flwyddyn, er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn—heriau go iawn—sy’n wynebu ysgolion gwledig a chynnal addysg yn y cymunedau hynny.