Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Roeddwn yn meddwl tybed pa waith rydych wedi’i wneud mewn perthynas â chysylltiadau cymunedol ac ysgolion bro. Er enghraifft, yn fy ardal i—ac ardaloedd eraill—mae gennym ysgol fawr newydd, sef Ysgol Bae Baglan. Dywedwyd wrthynt cyn i’r ysgol gael ei hadeiladu, gan uno gwahanol gymunedau o amgylch yr ardal honno, y byddent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth—yn gallu cael mynediad at y cae—ar gyfer gweithgareddau, ond bellach ymddengys mai llywodraethwyr yr ysgol honno fydd yn gallu gwneud y penderfyniad. Yn aml iawn, mae hynny’n creu tensiwn yn y gymuned leol, lle y gall y llywodraethwyr fod â safbwynt gwahanol ynglŷn â sut y dylid defnyddio’r cae o ran sut y mae’r gymuned eisoes wedi’i ddefnyddio dros lawer o flynyddoedd. Felly, rwy’n meddwl tybed pa sgyrsiau rydych wedi’u cael i geisio annog sgyrsiau priodol rhwng yr ysgolion a’r cymunedau er mwyn sicrhau y gall pawb, mewn gwirionedd, ddefnyddio’r cyfleusterau hynny pan fyddant angen eu defnyddio.