Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaed ddoe gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am ymchwiliad DU gyfan i amgylchiadau’r drasiedi hon. Mae angen i bawb ohonom wybod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd. Dyna pam ei bod yn bwysig fod y rhai yr effeithiwyd arnynt yn cael lleisio barn am ddull gweithredu a chylch gwaith yr ymchwiliad. Rwyf wedi galw am ymchwiliad o’r fath o’r blaen, ac rwyf wedi ysgrifennu heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, ac rwy’n disgwyl ymgysylltiad llawn â’r rhai yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru.