3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Beth yw’r goblygiadau i Gymru yn dilyn y penderfyniad i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal gwaed halogedig? TAQ(5)0200(HWS)
Diolch am y cwestiwn. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaed ddoe gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am ymchwiliad DU gyfan i amgylchiadau’r drasiedi hon. Mae angen i bawb ohonom wybod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd. Dyna pam ei bod yn bwysig fod y rhai yr effeithiwyd arnynt yn cael lleisio barn am ddull gweithredu a chylch gwaith yr ymchwiliad. Rwyf wedi galw am ymchwiliad o’r fath o’r blaen, ac rwyf wedi ysgrifennu heddiw at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, ac rwy’n disgwyl ymgysylltiad llawn â’r rhai yr effeithiwyd arnynt yng Nghymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae ymgyrchwyr ac aelodau o grŵp trawsbleidiol y Cynulliad ar hemoffilia a gwaed halogedig, y bu llawer ohonynt yn ymgyrchu am yr ymchwiliad cyhoeddus hwn ers 30 mlynedd, wedi dweud wrthyf fod yn rhaid i’r ymchwiliad gael y pŵer i orfodi tystion i roi tystiolaeth, yn wahanol i ymchwiliadau blaenorol. Mae’n rhaid sicrhau bod dogfennau’n cael eu datgelu’n llawn, gan fod honiadau fod rhai o’r rhain wedi cael eu dinistrio, a bod cofnodion meddygol wedi cael eu dinistrio neu fod rhywrai wedi ymyrryd â hwy. Maent eisiau gwybod pam fod cynhyrchion gwaed wedi parhau i gael eu defnyddio, a pham fod rhybuddion wedi cael eu hanwybyddu a pham na chafodd cleifion wybod am y peryglon; pam na ddefnyddiwyd triniaethau amgen; pam fod pobl â ffurf ysgafn ar hemoffilia wedi cael eu trin â chrynodiadau; pam fod buddiannau masnachol wedi cael blaenoriaeth dros ddiogelwch y cyhoedd; pam fod arian a ddyrannwyd ar gyfer hunangynhaliaeth mewn gwaed wedi cael ei ailddyrannu i rywle arall; pam fod hunangynhaliaeth mewn cyflenwadau gwaed wedi cymryd 13 mlynedd yn y DU ond pum mlynedd yn unig yn yr Iwerddon; pam fod papurau adrannol yr Arglwydd Owen a’r Arglwydd Jenkins wedi cael eu dinistrio o dan reol 10 mlynedd nad yw’n bodoli. Maent eisiau gwybodaeth am adroddiad gwallus yr Adran Iechyd ar hunangynhaliaeth mewn cynhyrchion gwaed, a gyhoeddwyd yn 2006, ac maent hefyd yn galw am ymchwiliad i rôl y cwmnïau fferyllol. Dyna rai o’r materion sy’n codi.
Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i ddefnyddio ei rôl i sicrhau bod y bobl hyn sydd wedi dioddef cymaint—. O gofio bod 70 o bobl yng Nghymru wedi marw, bod 273 wedi’u heintio, a bod bywydau cymaint o bobl eraill wedi cael eu difetha, sut y gallwch sicrhau y byddant yn cael lleisio barn yn y broses, y byddant yn gallu cael eu clywed? Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei bod eisiau ymchwiliad a fydd yn adlewyrchu’r hyn y mae’r teuluoedd ei eisiau, ac rwy’n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod pobl o Gymru yn cael lleisio barn.
Yn olaf, rwy’n credu eich bod wedi ymdrin â hyn yn rhannol, ond a wnaeth y Prif Weinidog neu’r Ysgrifennydd Iechyd gysylltu â chi cyn gwneud y cyhoeddiad hwn ddoe? Nodaf eich bod wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt heddiw, ond pa ran fydd gennych yn y modd y bydd yr ymchwiliad hwn yn cael ei lunio? Oherwydd fe wyddom fod cryn dipyn o anawsterau wedi bod wrth benderfynu ar fathau o ymchwiliadau ar gyfer trychinebau sydd wedi digwydd. Yn amlwg, rwy’n credu ei bod yn hanfodol fod yr ymchwiliad hwn yn cynhyrchu atebion clir oherwydd mae’r bobl yr effeithiwyd arnynt yn y modd enbyd hwn yn haeddu’r gwir?
Diolch am y cwestiwn. Dylwn ddechrau drwy gydnabod, wrth ymateb, nid yn unig rôl Julie Morgan yn ymgyrchu ar y mater tra bu’n Aelod o’r Cynulliad hwn ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol, ond hefyd o’i blynyddoedd blaenorol yn y Senedd, gyda diddordeb dwfn a gweithredol yn y mater hwn a’r sgandal sydd wedi effeithio ar bobl ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yma yng Nghymru.
Mae hon wedi bod yn broblem a enynnodd ddiddordeb trawsbleidiol, unwaith eto, yn y Senedd ac yn y Cynulliad hwn. Rwyf am ddechrau gyda’ch pwynt olaf, os hoffech, am y cysylltiadau rhwng y ddwy Lywodraeth. Mae’n rhaid i mi ddweud bod hwn yn un lle rwy’n gobeithio gweld perthynas fwy parchus rhwng y gweinyddiaethau. Ysgrifennais yn flaenorol at yr Arglwydd Prior am y mater hwn ar 20 Hydref 2016 yn dilyn ymateb a roddodd Prif Weinidog y DU i Diana Johnson yn ystod Cwestiynau i’r Prif Weinidog ym mis Medi y flwyddyn honno. Ni chefais ateb. Ysgrifennais wedyn at Jeremy Hunt ar 20 Rhagfyr 2016 ac ni chefais ateb i’r llythyr hwnnw ychwaith. Os yw’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi eu bod am ei weld, ac rwy’n croesawu hynny, i ddwyn ffrwyth mewn gwirionedd—ymchwiliad go iawn sy’n gwrando ar y bobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol ac sy’n rhan o hyn, ac mewn ymateb i fy nghydweithiwr etholaeth, Stephen Doughty, yn y Senedd ddoe, dangosodd y Llywodraeth unwaith eto eu bod eisiau i’r gweinyddiaethau datganoledig gymryd rhan yn briodol—yna mae hynny’n golygu bod angen cael ymagwedd wahanol. Yn hytrach na phenderfynu’n syml ar eu cylch gwaith eu hunain yn yr Adran Iechyd ar gyfer ymchwiliad ledled y DU, mae angen ymgysylltiad ychydig yn fwy dilys, nid yn unig â’r Llywodraeth, ond â’r teuluoedd a’r dioddefwyr eu hunain hefyd. Oherwydd, os ceir ymchwiliad arall heb bŵer i orfodi tystion i roi tystiolaeth ac nad yw’n darparu datgeliad llawn a phriodol, bydd yn gyfle a gollwyd, ond bydd hefyd yn creu dicter a diffyg ymddiriedaeth pellach ymhlith grŵp o bobl nad ydynt wedi cael eu trin yn dda dros nifer o flynyddoedd yn y gorffennol. Felly, mae’r cyhoeddiad i’w groesawu, ond mae ei gael yn iawn a chael y telerau’n gywir, a gwrando go iawn ar y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt ac ar y gweinyddiaethau datganoledig yn bwysig iawn. Cytunaf yn llwyr â’r amlinelliad bras o ran yr angen i orfodi tystion a datgeliad, ac rwy’n sicr yn gobeithio y gallwn ddod i gytundeb priodol ar hynny fel bod yr ymchwiliad yn cadw hyder y cyhoedd yn llawn wrth iddo gyflawni ei waith.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn innau hefyd ddiolch i’r ymgyrchwyr a Julie Morgan a’r grŵp trawsbleidiol am eu cryfder a’u penderfyniad yn dilyn y mater i’r canlyniad hwn. ‘Un o’r trychinebau gwaethaf yn ymwneud â thriniaethau yn hanes y GIG’, a dyna’r cynnig a basiwyd yn Nhŷ’r Cyffredin yn 2016, ac rwy’n credu ei fod yn crynhoi maint y sgandal hon yn berffaith.
Yr hyn rwy’n ei gael bron yn amhosibl ei gredu yw’r dystiolaeth fod swyddogion yn yr Adran Iechyd yn gwybod neu’n amau bod crynodiadau ffactor wedi’u mewnforio yn beryglus mor gynnar â’r 1980au, ac eto parhaodd y GIG i roi’r gwaed hwnnw i bobl neu’r ffactorau hynny i hemoffiligion. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ein sicrhau y bydd tryloywder llwyr mewn perthynas ag unrhyw gofnodion a allai fod ar gael naill ai yng Nghymru neu o Gymru i gynorthwyo’r ymchwiliad hwn?
Fel y gwyddoch, cafwyd ymchwiliad annibynnol a sefydlwyd gan yr Arglwydd Morris o Fanceinion ac fe gymerodd tua dwy flynedd i’w gwblhau. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymdrechu i ddefnyddio’r dylanwad sydd gennych i sicrhau bod yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â bod yn drwyadl, hefyd yn amserol? Mae gan ymchwiliadau cyhoeddus enw drwg ofnadwy am gael eu llethu’n llwyr yn y broses, ond mae hyn yn ymwneud â phobl a’r boen y maent wedi’i dioddef, ac maent eisiau atebion.
A wnewch chi sicrhau hefyd—ac rwy’n credu bod Julie wedi crybwyll hyn—fod y bobl yng Nghymru sydd eisiau siarad neu roi tystiolaeth yn cael cyfle i wneud hynny? Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi ystyried mewn gwirionedd sut y gallem eu cefnogi i wneud hynny, a’u cynorthwyo i roi unrhyw dystiolaeth, oherwydd rwy’n hollol argyhoeddedig y bydd yn achlysur hynod drawmatig iddynt ac os gallwn gynnig cefnogaeth i hwyluso’r daith honno iddynt, rwy’n credu y byddai hynny’n beth caredig iawn y gallech chi, fel Llywodraeth, ac y gallem ni, fel Cynulliad, ei wneud. Rwy’n siŵr y byddwch yn pwyso am dryloywder llwyr, ond a allech ein sicrhau y bydd unrhyw wersi a gaiff eu dysgu ar ddiwedd yr ymchwiliad hwn yn cael eu rhoi ar waith yn drylwyr ledled Cymru, er mwyn sicrhau na all y math hwn o ddigwyddiad ofnadwy byth ddigwydd eto?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn ag euogrwydd. Os canfyddir bod pobl wedi bod yn gelwyddog, yn anonest, yn dwyllodrus, neu’n dwp hyd yn oed, a bod goblygiadau i hynny o ran unrhyw broses, sefydliad neu unigolyn yng Nghymru, byddwn yn gobeithio y gallwch ein sicrhau heddiw y byddwch yn rhoi camau priodol ar waith mewn perthynas â hwy.
Diolch i chi am y gyfres honno o bwyntiau, ac rwy’n falch o ddweud fy mod yn cytuno â hwy. Rwy’n credu mai rhan o’r her yn hyn yw, nid yn unig poen y teuluoedd sydd wedi colli rhywun neu rywun sydd wedi cael eu heintio, ond mewn gwirionedd, caiff llawer o hynny ei waethygu gan y teimlad fod pethau wedi cael eu cuddio ac nad yw pobl wedi dweud y gwir ac nid damwain oedd hynny. Dyna pam fod yr ymchwiliad yn angenrheidiol, a dyna pam fod cael y telerau’n gywir yn angenrheidiol hefyd. Rwy’n credu o ddifrif nad yw hwn yn fater lle y dylai gwleidyddiaeth plaid fod o bwys. I fod yn deg, nid dyna oedd agwedd y grŵp trawsbleidiol yn y lle hwn nac yn y Senedd. Rwy’n deall yr alwad am dryloywder ac am gydweithrediad llawn a phriodol yn llwyr, ac rwy’n falch o gadarnhau, o safbwynt y Llywodraeth, lle mae gwybodaeth o Gymru yn ddefnyddiol i’r ymchwiliad hwnnw, fy mod yn disgwyl y bydd cydweithrediad a thryloywder llawn, fel y gall pobl weld ein bod o ddifrif yn chwarae ein rhan i geisio deall pam y digwyddodd yr hyn a ddigwyddodd. Y rheswm pam roeddem yn dweud bob amser bod angen cynnal ymchwiliad ledled y DU yw oherwydd y pwerau sy’n bodoli ar gyfer gorfodi yn yr ymchwiliad, ond hefyd oherwydd bod y digwyddiadau hyn wedi digwydd cyn datganoli, ac felly nid oeddem yn rheoli’r hyn a ddigwyddodd ar y pryd. Mae hynny’n bwysig iawn i bobl sydd eisiau i’r ymchwiliad gael ei gynnal.
Rwyf eisiau bod yn glir ynglŷn â sut y gallwn gefnogi pobl Cymru. Mae hynny’n dibynnu ar y cylch gwaith a’r ffordd y caiff yr ymchwiliad ei sefydlu. Fel ymchwiliad a gynhelir ledled y DU, bydd angen cael sgwrs briodol ynglŷn â sut y caiff pobl eu cefnogi, ynglŷn â gwneud yn siŵr fod hwn yn ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan mewn gwirionedd, yn hytrach nag ymchwiliad yn Lloegr a fydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i gwmpasu gweddill y Deyrnas Unedig i bob pwrpas. Felly, mae’n rhaid i honno fod yn sgwrs rwyf am ei chael gyda’r Adran Iechyd, na chysylltodd â Llywodraeth Cymru cyn i’r cyhoeddiad gael ei wneud ddoe. Roedd hwnnw’n bwynt y gofynnodd Julie Morgan yn ei gylch. Felly, nid oedd hynny wedi digwydd ar yr adeg honno. Rwyf i fod i siarad â rhywun o’r Adran Iechyd yr wythnos nesaf. Unwaith eto, mae’n siomedig, pan fo ymchwiliad DU gyfan o’r math hwn yn cael ei gyhoeddi, na chafwyd sgwrs yn gynharach gyda’r Llywodraeth hon. Unwaith eto, nid yw’n ymwneud â phleidiau o reidrwydd, mae’n ymwneud â’r berthynas rhwng un Llywodraeth a’r llall, a’r ffaith nad yw hyn yn briodol.
Mewn gwirionedd, mae pwynt go iawn yma am bobl sy’n credu yn yr undeb yn ceisio gwneud iddo weithio. Mae’n rhwystredig pan fo pethau fel hyn yn digwydd nad ydynt yn gwneud hynny mewn ffordd sydd, mewn gwirionedd, yn hyrwyddo buddiannau’r dinesydd, ac ymwneud â hynny y mae hyn oll. O ran ein sefyllfa yn awr, rwy’n hapus i gadarnhau, mewn gwirionedd, fod y ffordd y mae cynhyrchion gwaed yn cael eu rheoli erbyn hyn wedi newid yn sylweddol, ac ni ddylai fod yn bosibl i’r un sgandal ddigwydd yn yr un ffordd. Mae hi bob amser yn bosibl fod pobl yn barod i gydgynllwynio â’i gilydd, ond mae’r systemau sydd gennym ar waith bellach yn golygu bod cynhyrchion gwaed yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig yn anhygoel o ddiogel, a gallwch olrhain o ble y daw’r cynhyrchion hynny. Felly, dylai’r sgrinio sy’n digwydd yn awr fod yn ffactor go iawn ar gyfer sicrhau unrhyw un sy’n defnyddio cynhyrchion gwaed o Gymru neu o unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig.
O ran euogrwydd, nid yw rhai o’r materion hynny o fewn cylch gwaith y Llywodraeth hon, ond byddwn yn disgwyl y bydd unrhyw ganfyddiadau yn cael eu defnyddio i ddwyn pobl i gyfrif yn briodol, yn ogystal ag i ddeall ac i ddysgu. Credaf fod hynny’n wirioneddol bwysig. Os caf ddweud, rwy’n credu, yn ogystal â’r grŵp trawsbleidiol, y gallai fod yn ddoeth i lefarwyr y pleidiau perthnasol gael sgwrs rhwng yr wythnos hon a’r nesaf i weld a yw’n bosibl i ni ddod o hyd i eiriad y mae pob un o’r pleidiau yn y lle hwn yn cytuno arno o ran yr hyn yr hoffem ei weld yn digwydd mewn perthynas â’r cylch gwaith a’r modd y caiff yr ymchwiliad ei gynnal. Yn ogystal â sgwrs rhwng un Llywodraeth a’r llall, credaf y bydd cael pob plaid i gytuno ar rywbeth yn ddefnyddiol i ni ei wneud hefyd. Ond rwy’n hapus i gael y sgwrs honno gyda’r llefarwyr ar ôl y cwestiwn heddiw.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Norman a Jennifer Hutchinson, fy etholwyr, sydd wedi dal ati i bwyso’n dyner arnaf i barhau i bwyso, ynghyd â Julie Morgan ac eraill yma yn y Siambr, ar Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r gwaith a’n helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Nid ydym wedi cyrraedd yno eto, fel y dywedodd Norman a Jennifer wrthyf neithiwr. Gyda’r arweinyddiaeth gywir ar y panel a’r cylch gwaith cywir, gallem sicrhau’r cyfiawnder y mae cymaint o’i angen. Felly, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn cael y sicrwydd hwnnw yn awr. Nawr, wrth ddiolch iddynt, hoffwn gofnodi fy edmygedd hefyd, yn ogystal â fy niolch, i holl deuluoedd y rhai yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal hon am eu penderfyniad cyson dros nifer o flynyddoedd i’n helpu i gyrraedd y pwynt hwn. Wrth groesawu cynnig Ysgrifennydd y Cabinet i weithio ar safbwynt ar y cyd o bosibl ar draws y pleidiau yma—oherwydd mae hon wedi bod yn ymdrech drawsbleidiol—a gaf fi ofyn iddo wneud yn siŵr hefyd ei fod yn sicrhau bod y teuluoedd yn parhau i allu bwydo gwybodaeth iddo ef a’i adran a rhoi arweiniad ar sut i ymwneud â Llywodraeth y DU ynglŷn â’r mater hwn er mwyn sicrhau bod hyn yn fwy na phosibilrwydd o roi diwedd ar y mater, ond ei fod yn datrys ac yn ateb y cwestiynau y mae angen mor daer wedi bod i’w gofyn ers cynifer o flynyddoedd?
Diolch i chi am y pwyntiau hynny, Rhun. Unwaith eto, rwy’n gwybod eich bod yn aelod o’r grŵp trawsbleidiol hefyd ac wedi bod â diddordeb gwirioneddol yn y mater hwn. Rwyf fi, hefyd, yn rhannu’r edmygedd hwn sydd gennych chi ac Aelodau eraill yn y Siambr o gryfder pobl nad ydynt wedi rhoi’r gorau iddi, nid yn unig o ran ymladd dros eu hachos unigol hwy a’u teulu, ond dros achos llawer ehangach a effeithiodd ar lawer o bobl eraill ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig. Rwyf hefyd yn croesawu eich ymagwedd adeiladol tuag at y posibilrwydd o lythyr trawsbleidiol yn ogystal. Rwy’n credu y gallai fod yn ddefnyddiol iawn.
O ran sefyllfa teuluoedd yng Nghymru, rwyf wedi dweud yn glir fy mod eisiau gwneud yn siŵr fod teuluoedd yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol ac yn briodol. Ac wrth gwrs, fel Llywodraeth, bydd angen i ni siarad â’r bobl hynny i roi cyfle iddynt ddweud wrthym beth y maent eisiau ei weld, yn ogystal â cheisio siarad yn uniongyrchol â Llywodraeth y DU. Rwy’n credu, o ran ein safbwynt fel Llywodraeth, mai’r hyn rydym eisiau ei sicrhau yw ein bod o ddifrif yn siarad ar ran y teuluoedd yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol. Felly, rwy’n ystyried sut y gallwn wneud hynny. Mae gennym y gallu i gysylltu â’r teuluoedd hynny’n uniongyrchol ac i weld beth y maent eisiau ei wneud, yn ogystal â’r Gymdeithas Hemoffilia a grwpiau cymorth eraill sydd eisoes yn bodoli i gefnogi nifer o’r teuluoedd hynny. Rwy’n meddwl am y 10 pwynt a nodwyd eisoes gan y Gymdeithas Hemoffilia o ran eu safbwynt ar yr ymchwiliad. Felly, mae hwnnw’n ddechrau defnyddiol i ni hefyd, ond mae angen i ni weld a oes materion eraill y mae teuluoedd yn dymuno eu codi’n uniongyrchol yn y drafodaeth barhaus anorffenedig ynglŷn ag aelodaeth yr ymchwiliad a’i gylch gwaith.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Julie, y grŵp trawsbleidiol, a phawb arall a oedd yn rhan o’r gwaith o sicrhau bod yr ymchwiliad hwn yn digwydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n credu ei fod yn newyddion gwych ein bod, o’r diwedd, yn cael ymchwiliad cyhoeddus i’r sgandal ofnadwy hon. Collodd fy ffrind agos, Faye Denny, ei brawd, Owen Denny, a fu farw o ganlyniad i waed halogedig. Yn awr, y gobaith yw y bydd Owen, a’i deulu a miloedd o deuluoedd eraill yr effeithiwyd arnynt gan y sgandal ofnadwy hon, yn cael cyfiawnder o’r diwedd. Mae’r GIG yno i achub bywydau, ac mae’n aml iawn yn gwneud hynny, ond fe wnaeth gam ofnadwy ag Owen a llawer o bobl debyg iddo ar yr achlysur hwn. Felly, mae angen ymchwilio’r cyfnod tywyll hwn mewn hanes yn llawn yn awr, ac mae’n rhaid i ni sicrhau na all byth ddigwydd eto. Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau bod lleisiau dioddefwyr o Gymru a’u teuluoedd yn cael eu clywed. A wnewch chi weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ymchwiliad yn gallu datgelu’r gwirionedd ynglŷn â’r anghyfiawnder echrydus hwn, gwirionedd sy’n hollol dryloyw ar bob adeg? Diolch.
Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau. Unwaith eto, bydd llawer o’r Aelodau yn y Siambr hon wedi’u heffeithio’n uniongyrchol o fod yn adnabod rhywun yr effeithiwyd arnynt uniongyrchol gan y sgandal. Rydym yn awyddus iawn i beidio â cheisio honni y gall Llywodraeth Cymru ysgrifennu telerau’r cylch gwaith ar gyfer yr ymchwiliad. Byddwn yn gwneud popeth a allwn ac y dylwn ei wneud i ddylanwadu ac i ddadlau dros gylch gorchwyl sy’n diwallu anghenion teuluoedd a’r hyn y maent eisiau ei weld o fewn cylch gorchwyl yr ymchwiliad mewn gwirionedd. Byddaf yn hollol dryloyw gyda llefarwyr y pleidiau o amgylch y Siambr hon o ran yr hyn rydym yn ceisio ei wneud i gyrraedd y pwynt hwnnw. Mae angen dweud am yr amserlen hefyd, oherwydd bydd bron bob un ohonom eisiau gweld amserlen fer, ond o ystyried y cyfnod o amser y digwyddodd hyn, o ystyried nifer y dogfennau sy’n debygol o gael eu darparu neu y bydd angen eu darparu a’u datgelu ac yna’u hystyried, ni fyddwn yn rhagweld y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn gyflym. Ond rwy’n credu, i’r bobl sydd wedi aros cyhyd i gael ymchwiliad, cael y telerau’n gywir, gwneud yn siŵr fod yr holl dystiolaeth yn gywir a bod amser priodol i’w hystyried yw’r pethau pwysicaf yn fy marn i. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i’r ymchwiliad gael yr adnoddau priodol yn hytrach na gofyn am ymchwiliad gyda chylch gwaith enfawr heb fawr ddim adnoddau i wneud hynny. Felly, mae’r rhain i gyd yn bwyntiau y byddwn yn eu gwneud yn ein sgwrs â Llywodraeth y DU, ac yn bwyntiau rydym eisiau eu hystyried ar y cyd â’r teuluoedd yr effeithiwyd arnynt. Ond fel rwy’n dweud, byddaf yn hollol dryloyw gyda’r Siambr hon ynglŷn â’r ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i geisio dadlau dros y bobl sy’n byw yma yng Nghymru.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Yr ail gwestiwn—Eluned Morgan.