Part of 3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn innau hefyd ddiolch i’r ymgyrchwyr a Julie Morgan a’r grŵp trawsbleidiol am eu cryfder a’u penderfyniad yn dilyn y mater i’r canlyniad hwn. ‘Un o’r trychinebau gwaethaf yn ymwneud â thriniaethau yn hanes y GIG’, a dyna’r cynnig a basiwyd yn Nhŷ’r Cyffredin yn 2016, ac rwy’n credu ei fod yn crynhoi maint y sgandal hon yn berffaith.
Yr hyn rwy’n ei gael bron yn amhosibl ei gredu yw’r dystiolaeth fod swyddogion yn yr Adran Iechyd yn gwybod neu’n amau bod crynodiadau ffactor wedi’u mewnforio yn beryglus mor gynnar â’r 1980au, ac eto parhaodd y GIG i roi’r gwaed hwnnw i bobl neu’r ffactorau hynny i hemoffiligion. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ein sicrhau y bydd tryloywder llwyr mewn perthynas ag unrhyw gofnodion a allai fod ar gael naill ai yng Nghymru neu o Gymru i gynorthwyo’r ymchwiliad hwn?
Fel y gwyddoch, cafwyd ymchwiliad annibynnol a sefydlwyd gan yr Arglwydd Morris o Fanceinion ac fe gymerodd tua dwy flynedd i’w gwblhau. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymdrechu i ddefnyddio’r dylanwad sydd gennych i sicrhau bod yr ymchwiliad hwn, yn ogystal â bod yn drwyadl, hefyd yn amserol? Mae gan ymchwiliadau cyhoeddus enw drwg ofnadwy am gael eu llethu’n llwyr yn y broses, ond mae hyn yn ymwneud â phobl a’r boen y maent wedi’i dioddef, ac maent eisiau atebion.
A wnewch chi sicrhau hefyd—ac rwy’n credu bod Julie wedi crybwyll hyn—fod y bobl yng Nghymru sydd eisiau siarad neu roi tystiolaeth yn cael cyfle i wneud hynny? Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a wnewch chi ystyried mewn gwirionedd sut y gallem eu cefnogi i wneud hynny, a’u cynorthwyo i roi unrhyw dystiolaeth, oherwydd rwy’n hollol argyhoeddedig y bydd yn achlysur hynod drawmatig iddynt ac os gallwn gynnig cefnogaeth i hwyluso’r daith honno iddynt, rwy’n credu y byddai hynny’n beth caredig iawn y gallech chi, fel Llywodraeth, ac y gallem ni, fel Cynulliad, ei wneud. Rwy’n siŵr y byddwch yn pwyso am dryloywder llwyr, ond a allech ein sicrhau y bydd unrhyw wersi a gaiff eu dysgu ar ddiwedd yr ymchwiliad hwn yn cael eu rhoi ar waith yn drylwyr ledled Cymru, er mwyn sicrhau na all y math hwn o ddigwyddiad ofnadwy byth ddigwydd eto?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn ag euogrwydd. Os canfyddir bod pobl wedi bod yn gelwyddog, yn anonest, yn dwyllodrus, neu’n dwp hyd yn oed, a bod goblygiadau i hynny o ran unrhyw broses, sefydliad neu unigolyn yng Nghymru, byddwn yn gobeithio y gallwch ein sicrhau heddiw y byddwch yn rhoi camau priodol ar waith mewn perthynas â hwy.