3. 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 12 Gorffennaf 2017.
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael ynghylch y swyddi a gaiff eu colli o ganlyniad i’r penderfyniad i gau swyddfeydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Llanelli ac mewn rhannau eraill o Gymru? TAQ(5)0197(EI)
Rwyf wedi gwneud sylwadau i’r Gweinidog cyflogaeth sawl gwaith. Eglurais fy mhryderon pan siaradasom ar 5 Gorffennaf. Byddaf yn parhau i geisio sicrwydd ynglŷn â sefyllfa staff yr effeithir yn niweidiol arnynt gan y newidiadau hyn. Ac yn wir, rwy’n cyfarfod â Gweinidog y DU yfory i drafod y mater ymhellach.
Mae hynny’n newyddion gwych. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn troi pob carreg yn wir, fel y bydd fy nghyd-Aelod, Lee Waters, sy’n AC dros Lanelli ac sydd, wrth i ni siarad, yn cyfarfod am yr eildro gyda Damian Hinds o’r Adran Gwaith a Phensiynau, a Nia Griffiths AS, sy’n ceisio dod o hyd i ateb munud olaf i’r hyn rwyf fi a hwythau’n ei ystyried yn benderfyniad cyfeiliornus iawn yn arbennig mewn perthynas â’r sefyllfa yn Llanelli, lle rydym yn rhagweld y bydd 146 o bobl yn colli eu swyddi. Er bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio’n galed i sicrhau’r cynnig o swyddfeydd amgen yn Llanelli, ac rwy’n gwybod am yr ymdrechion glew ar ran Llywodraeth Cymru, sydd wedi cynnig gofod swyddfa rhad ac am ddim i gadw’r swyddi hyn yn lleol, mae’r Llywodraeth Dorïaidd wedi troi eu cefnau ar orllewin Cymru unwaith eto. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod symud y swyddi hyn o Lanelli yn mynd yn groes i strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU, sy’n dweud ei bod eisiau lledaenu ffyniant ar draws y Deyrnas Unedig?
Yn hollol. Rwy’n siomedig iawn fod yr Adran Gwaith a Phensiynau, ddydd Mercher diwethaf, wedi cyhoeddi’r penderfyniad i gau’r swyddfa budd-daliadau yn Llanelli a’r canolfannau gwaith yn Aberpennar, Y Pîl, a Thredegar. Rydym yn deall y bydd adleoli swyddi yn effeithio ar tua 150 o staff. Rwy’n siomedig iawn hefyd na wnaethant ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynglŷn ag atebion amgen cyn y penderfyniad terfynol. Nodais fy mhryderon dwys ynglŷn â hyn wrth Damian Hinds yr wythnos ddiwethaf pan siaradais ag ef ar y ffôn, ac rwyf wedi ysgrifennu sawl gwaith ynglŷn â hyn, cyn yr etholiad cyffredinol ac wedi hynny.
Rydym yn croesawu’r ffaith fod swyddi 93 o staff yng nghanolfan ddyledion y Porth yn cael eu hadleoli yn awr i ganolfan waith Tonypandy yn hytrach na Chaerffili fel y cyhoeddwyd yn gynharach yn y flwyddyn. Ac yn ystod ein sgwrs, dywedodd y Gweinidog cyflogaeth wrthyf hefyd ei fod yn agor yr hyn a ddisgrifiodd fel adeilad modern mawr i’r gogledd o Gaerdydd i uno pum canolfan brosesu fach a chyfagos, ond ni roddodd unrhyw fanylion am hynny i mi, felly byddaf yn pwyso arno mewn perthynas â hynny yfory. Nodais yn bendant iawn nad ein nod oedd crynhoi swyddi mewn ardaloedd â lefelau uchel o gyflogaeth, ond ein bod, mewn gwirionedd, yn ceisio cadw swyddi mewn ardaloedd â lefelau cyflogaeth is lle roedd y swyddi’n llawer pwysicach ac yn fawr eu hangen. Cawsom rywfaint o drafodaeth am dopograffi Cymru yn y sgwrs honno, ac ynglŷn â’r ffordd nad oedd llinellau ar fap, heb y mynyddoedd yn y canol, o bosibl, yn dynodi gallu pobl i gymudo yn dda iawn, ac yn y blaen. Byddaf yn mynd ar drywydd hynny gydag ef yfory.
Ond diwedd y gân yw hyn: rydym yn siomedig tu hwnt na ymgynghorwyd yn briodol â ni, na chafodd ein cynigion i helpu i gadw swyddi mewn ardaloedd sydd eu hangen yn fawr mo’u derbyn. Byddaf yn ceisio gweithio’n adeiladol gydag ef yfory mewn perthynas â’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol i weld a allwn ddylanwadu arnynt i wneud yn siŵr fod swyddi sy’n bodoli eisoes yn aros yng nghymunedau’r Cymoedd a chymunedau eraill lle mae diweithdra ychydig yn uwch ar draws Cymru, a byddwn yn ailadrodd ein polisi Swyddi Gwell yn Nes at Adref, nid crynhoi pobl mewn canolfannau mawr sydd, yn anochel, ymhellach o ble y maent yn byw.
Wrth gwrs, rwy’n gobeithio y byddwch chi’n cael llwyddiant yn eich cyfarfod yfory ac efallai yn defnyddio’r cyfle olaf i ddarbwyllo’r Adran Gwaith a Phensiynau i wyrdroi’r penderfyniad, yn enwedig yng nghyd-destun symud swyddi oddi ar ganol tref Llanelli, sydd yn mynd i gael effaith economaidd ddybryd iawn ar dref sydd yn sigledig yn economaidd, fel rŷm ni i gyd yn gwybod.
Rwy’n ddiolchgar eich bod chi wedi ateb, y bore yma, cwestiwn ysgrifenedig, ac yn benodol hoffwn i droi at y ffaith bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn dweud na fydd neb yn gorfod colli swydd oherwydd y penderfyniad yma yn Llanelli, ond yn cael eu hadleoli. Ond byddwch chi’n gwybod o’r trafodaethau mae’n siŵr eu bod nhw yn sôn am adleoli i lefydd fel Doc Penfro a Chaerdydd, ac mae’n gwbl amhosibl, gyda chynifer o fenywod, pobl gyda chyfrifoldebau gofal, pobl gyda phlant ifanc a gyda rhieni mewn oed i ystyried symud swyddi o ganol Llanelli i weithio mewn ardaloedd mor wasgaredig. Felly, yn benodol, pan fyddwch chi’n cwrdd â Damian Hinds yfory, a fyddwch chi’n gofyn yn fwy penodol am warant ganddo fe os nad oes rhywun yn medru adleoli oherwydd y cyfrifoldebau sydd gyda nhw o ran gofal plant neu oherwydd y sefyllfa bersonol sydd gyda nhw, na fydd yna ddiswyddo gorfodol yn digwydd? Iawn, os yw pobl yn moyn cael eu diswyddo yn wirfoddol, mae hynny’n fater iddyn nhw. Ond a fedrwch chi gael ymrwymiad na fydd diswyddo gorfodol, ac felly y bydd pobl yn medru cadw eu swyddi?
Wel, yn wir, mae honno’n rhan bwysig o’r sgwrs. Cawsom sgwrs am ardaloedd adleoli posibl i bobl o Lanelli, a chafodd ystod amrywiol o leoedd eu crybwyll, gan beri i mi ofyn a oedd ganddo fap gyda’r mynyddoedd wedi’u marcio arno. Un o’r ardaloedd a grybwyllwyd oedd adleoliad posibl i lannau Abertawe, er enghraifft. Roeddwn yn esbonio pa mor anodd yw hi i gymudo o ganol Llanelli i Abertawe. Efallai nad yw’n ymddangos yn bell iawn yn y de-ddwyrain, ond yma yng Nghymru, mae’n gryn bellter mewn gwirionedd, a beth bynnag, mae’r staff yn debygol o fod yn dod o’r gorllewin i Lanelli.
Felly, rwyf wedi gwneud pob un o’r pwyntiau hynny. Rydym wedi gwneud y pwynt ein bod yn anhapus iawn ynglŷn ag unrhyw fath o gynllun diswyddo gorfodol. Byddaf yn ailadrodd hynny. Ond hoffwn ddweud hefyd, lle yr effeithir ar bobl gan ddiswyddiadau, os mai dyna a fydd yn digwydd—ac rwy’n cael sicrwydd ar hyn o bryd na fydd hynny’n digwydd—ond os yw’n digwydd, yna yn amlwg byddwn yn gweithio’n galed iawn i wneud yn siŵr fod unrhyw un yr effeithir arnynt yn cael budd llawn ein gwasanaethau ReAct ynghyd â phopeth arall. Felly, byddwn yn awyddus i gael eglurhad gan gyfarwyddwr gwasanaethau gwaith Cymru mewn perthynas ag amseriad y cau, y cynlluniau adleoli a’r effaith debygol ar y staff ond hefyd y gwasanaethau a gynigir i ddefnyddwyr gwasanaethau, a threfniadau teithio ar eu cyfer, a’r addasiadau i’r amseroedd ac yn y blaen—cael cymaint o fanylion ag y bo modd mewn gwirionedd, (a) i barhau i roi pwysau arnynt i beidio â gwneud penderfyniadau nad ydynt yn gwneud unrhyw synnwyr yng nghyd-destun Cymru, a (b) os ydynt yn gwneud y penderfyniadau hynny, eu bod yn sicrhau ein bod yn addasu ein gwasanaethau i lenwi’r bylchau, mewn gwirionedd.
Diolch i chi, Gweinidog, am yr ymatebion rydych wedi’u rhoi hyd yn hyn. Mae’n gymhariaeth ddiddorol gyda’r hyn roeddem yn sôn amdano gyda Tesco ychydig o wythnosau yn ôl yn unig, pan oeddem yn pryderu na allem ddylanwadu ar y cwmni corfforaethol mawr hwnnw, ac yn awr mae’r Llywodraeth, Llywodraeth y DU, sy’n gallu gwrando ar ein cymunedau, yn gwneud bron yr un peth ag y gwnaeth Tesco, ac mae hynny’n fy rhyfeddu.
Mae’r sibrydion, er enghraifft, yn broblem enfawr. Fe sonioch am yr adleoli o’r Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghaerffili i rywle i’r gogledd o Gaerdydd—ac ardaloedd eraill i’r gogledd o Gaerdydd. Wel, rwyf wedi clywed fod ystâd ddiwydiannol Trefforest yn bosibilrwydd. Nid wyf yn gwybod a yw hynny’n wir ai peidio, ond rwy’n gwybod fod gan Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, y siaradais â hwy, bryderon mawr ynglŷn â mynediad, yn arbennig, ar gyfer gweithwyr yng Nghaerffili. Mae Wayne David AS wedi mynegi’r pryderon hynny ac rwy’n sefyll gydag ef wrth fynegi’r pryderon hynny heddiw.
Mae hyn hefyd, fel y dywedwch, yn mynd yn groes i bolisi Llywodraeth Cymru lle rydym yn ceisio dod â swyddi ymhellach i’r gogledd drwy’r Cymoedd gogleddol ac mae Llywodraeth y DU yn symud pethau i’r de. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr. Felly, a wnewch chi roi ymrwymiad pellach, pan fyddwch yn siarad â Llywodraeth y DU, i’w hannog i gadw canolfan Caerffili—i ailystyried eu cynlluniau ar gyfer canolfan Caerffili a chadw honno ar agor hefyd?
Gwnaf, yn wir, rwy’n hapus i roi’r ymrwymiad hwnnw i chi. Rwy’n gobeithio y byddwn yn cael trafodaeth eang ynglŷn â beth yn union yw’r cynlluniau, pam eu bod wedi penderfynu gwneud hyn, pam nad ydynt wedi ymgynghori â ni, ac yn wir, beth y gellir ei wneud yn awr. Nid yw wedi digwydd eto mewn gwirionedd. Beth y gallwn ei wneud ar hyn o bryd i gynorthwyo ac i wneud yn siŵr ein bod yn deall yn union beth yw’r cynigion fel nad oes sibrydion yn mynd o gwmpas, fel sydd wedi bod yn digwydd ers peth amser, ac er mwyn gallu sicrhau staff, a sicrhau defnyddwyr gwasanaethau yn wir, ynglŷn â ble fydd y swyddfeydd wedi’u lleoli yn y dyfodol?
Felly, fel y dywedais, byddwn yn chwilio am eglurhad ynglŷn ag amseriad y cau, adleoli staff, beth sy’n digwydd i’r gwasanaethau—yr holl ystod o faterion sy’n ymwneud ag adleoli’r swyddfeydd. Byddaf yn ailadrodd nad dyma y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddweud yn ei strategaeth ddiwydiannol mewn perthynas â dod â chyflogaeth i ardaloedd lle mae llai o gyflogaeth nag y byddech yn ei gael mewn canolfannau trefol, ac mae’n sicr yn mynd yn groes i’n hagenda Swyddi Gwell yn Nes at Adref ein hunain.
Pan fydd y Gweinidog yn cyfarfod â Gweinidog y DU yfory, bydd hi’n gallu dweud bod ganddi gefnogaeth unedig yr holl Aelodau Cynulliad dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, ac yn wir, gan fy mhlaid i yn ogystal â Phlaid Cymru, yn yr hyn y mae’n ei ddweud. Mae hi’n hollol gywir, wrth gwrs, mewn perthynas â gorllewin Cymru—un o’r rhannau tlotaf, nid yn unig yn y Deyrnas Unedig, ond yng ngorllewin Ewrop mewn gwirionedd. Mae’n gwbl anghywir i’r Llywodraeth fabwysiadu safbwynt y gellid ei alw’n safbwynt digyfaddawd masnachol ar adleoli yn syml er mwyn arbed ychydig o geiniogau yma ac acw ac i ymddwyn yn yr un ffordd ag y mae cwmni fel Tesco wedi ymddwyn, fel y mae Hefin David newydd ei nodi. Ac i’r graddau fod hyn yn mynd yn gwbl groes i bolisi Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, dyma’r trydydd tro y prynhawn yma inni glywed bod Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi bod yn rhy brin o foesau da sylfaenol i ymgynghori neu o leiaf i siarad â Gweinidogion Llywodraeth Cymru cyn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar fuddiannau hanfodol Cymru. Clywsom hyn gan y Cwnsler Cyffredinol, fe’i clywsom hefyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, ac yn awr gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Mae angen i Weinidogion Llywodraeth y DU ddysgu bod datganoli yn realiti a bod angen iddynt barchu buddiannau Cymru fel y cânt eu cynrychioli yn y Cynulliad hwn.
A gaf fi hefyd ddweud bod y penderfyniad hwn yn dangos nad yw swyddi o reidrwydd yn ddiogel yn unig oherwydd eu bod yn swyddi sector cyhoeddus? Yr hyn sy’n hanfodol angenrheidiol yw bod gennym fwy o arallgyfeirio yn yr economi yng Nghymru, gan fod dwy ran o dair o’n hincwm cenedlaethol, yn y pen draw, yn dibynnu ar wariant Llywodraethol o ryw fath neu’i gilydd, ac mae taer angen mwy o fuddsoddiad yn y sector preifat a swyddi sy’n talu’n well yng Nghymru.
Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth drawsbleidiol. Nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i ni symud swyddi o ardaloedd sydd eu hangen yn fawr i ardaloedd lle mae cyflogaeth yn llawer uwch. Nid oes gennyf holl fanylion y cynllun ar gyfer y swyddfa fawr newydd, nac am gau, rwy’n tybio, rhai o’r is-swyddfeydd o’i chwmpas, ond byddaf yn gofyn am eglurhad ar hynny, ac yn wir byddwn yn ceisio dylanwadu ar leoliad y ganolfan honno. Nid oes gennyf y manylion hynny eto, ond byddaf yn gofyn amdanynt.
O ran arallgyfeirio, nid wyf yn anghytuno â hynny mewn gwirionedd, ond hefyd rydym eisiau i Lywodraeth y DU ymrwymo i gadw swyddi sector cyhoeddus da mewn ardaloedd o Gymru lle mae angen y gwaith hwnnw. Maent yn aml yn swyddi sy’n arwain at greu gwaith arall, maent yn aml yn cynnal economi fach leol, mae’r holl gaffis a siopau bach o amgylch y canolfannau hyn hefyd yn ei chael hi’n anodd ar ôl iddynt adael, ac maent yn aml yn ganolbwynt i ecosystem fach. Felly, er nad wyf yn anghytuno â’r pwynt ynglŷn ag arallgyfeirio, rwyf hefyd yn awyddus i bwysleisio ein bod eisiau ymrwymiad gan Lywodraeth y DU i ddefnyddio ei harian a’i chyflogaeth yn ddoeth ac yn dda er mwyn cefnogi diwydiannau a chyflogaeth o fathau eraill yn yr ardaloedd hynny.
Rydym yn gwybod fod cwmpas newidiadau’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn cynnwys cau eu safle yn Sovereign House yng Nghasnewydd. Bydd hyn yn golygu adleoli 249 o swyddi, a oedd yng nghanol ein dinas, i rywle i’r gogledd o Gaerdydd. Mae’r staff teyrngar yn Sovereign House yn haeddu gwell ac mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn wynebu colli gweithwyr medrus a phrofiadol iawn oherwydd newidiadau diangen.
Mae’r diffyg ymgynghori, fel y mae aelodau eraill wedi’i ddweud, yn gwbl druenus ac mae hyn yn mynd yn erbyn polisi’r Llywodraeth o gadw swyddi yn nes at adref. Yn wir, mae’r cynlluniau hyn i’w gweld fel pe baent wedi cael eu llunio gan Lywodraeth y DU heb unrhyw ddealltwriaeth o’r staff y maent yn eu cyflogi ar hyn o bryd, amseroedd cymudo, na daearyddiaeth Cymru yn wir.
Mae fy nghydweithwyr Paul Flynn a Jessica Morden AS yn arwain ar y mater hwn yn y Senedd, ond a allwch sicrhau fy etholwyr, yn eich trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a’r Gweinidog yfory, y byddwch yn gwneud popeth yn eich gallu i ddiogelu’r swyddi hynny yng Nghasnewydd?
Yn sicr. Fel y dywedais, rydym yn ceisio cael darlun o’r sefyllfa ar draws Cymru. Nid ydym yn hapus o gwbl ynglŷn â’r broses o grynhoi swyddi mewn un ardal benodol. Nid ydynt wedi ymgynghori â ni yn ei gylch. Ymddengys i ni ei fod wedi cael ei ysgogi gan faterion yn ymwneud ag ystadau, yn hytrach na materion yn ymwneud â swyddi a chyflogaeth, ac nid honno yw’r ffordd gywir o fynd o’i chwmpas yn fy marn i. Rydym wedi cynnig gweithio gyda hwy, ac yn wir, ar hyn o bryd rydym—ac rwy’n estyn y cynnig yn awr—yn gobeithio gweithio gyda hwy ynglŷn â beth yw eu gofynion swyddfa, a’r ffaith nad ydynt wedi ymgynghori â ni. Rwyf wedi cynnig swyddogion fel cysylltiadau i gael y drafodaeth honno gyda hwy, a byddaf yn sicr yn gwneud y pwynt ynglŷn â Chasnewydd, ochr yn ochr â’r holl swyddfeydd eraill sy’n wynebu cau o ganlyniad i’r hyn na allaf ond ei ddisgrifio fel argymhelliad byrbwyll na roddwyd ystyriaeth briodol iddo.
Diolch i’r Gweinidog. Y cwestiwn olaf—Mohammad Asghar.