Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Rwy'n credu bod y dadansoddiad yn hollol gywir. Mae gan Nick Brain hanes o lwyddiant mewn mannau eraill yn y fwrdeistref sirol. Ond mae'n dangos y gwahaniaeth y gall arweinyddiaeth ei wneud i sefydliad sy'n mynd trwy gyfnod anodd. Mae'r staff fwy neu lai yr un rhai, mae'r disgyblion fwy neu lai yr un rhai, ond, yn amlwg, nid oedd yr arweinyddiaeth yno, yn y modd y byddai pobl wedi ei ddisgwyl. Mae yno nawr, ac mae'n wych gweld y cynnydd sydd wedi ei wneud.