Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
A gaf i ychwanegu fy llais innau at y teimladau hynny hefyd? Rwy'n credu bod hyn yn newyddion gwych i Goleg Cymunedol y Dderwen. Er hynny, mae'r adroddiad yn nodi bod y cwricwlwm yn cyfyngu ar barhad datblygiad sgiliau Cymraeg ac ieithoedd tramor modern y disgyblion ar hyn o bryd, a bod bwriad i fynd i'r afael â hynny yn 2017-18. Wel, gallai sgiliau dwyieithog a thairieithog hyd yn oed, fel yr wyf yn gobeithio eich bod yn derbyn, fod yn fodd o wireddu symudedd cymdeithasol, ac, wrth gwrs, mae gennym ni’r targed o 1 filiwn o siaradwyr. Felly, a oes unrhyw gymorth y gallai Llywodraeth Cymru ei roi i’r ysgol, neu'r consortiwm sy'n gysylltiedig â hyn, neu gyngor neu gymorth ychwanegol, er mwyn sicrhau eu bod wir yn llwyddo yn hyn o beth yn ystod y flwyddyn i ddod?