Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Prif Weinidog, ceir wyth ardal fenter ledled Cymru. Nid oes yr un ohonyn nhw yn fy etholaeth i. Byddwn i’n dweud, yn y canolbarth, bod diddordeb mawr mewn entrepreneuriaeth a bod lefel uwch o fusnesau newydd nag efallai mewn rhannau eraill o Gymru. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ofyn i chi, Prif Weinidog, yw: a ydych chi’n credu bod achos dros ardal fenter, neu gytundeb twf, ar gyfer y canolbarth, sy’n canolbwyntio'n arbennig ar dyfu busnesau a chreu swyddi sy'n talu'n well?