Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Byddwn bob amser yn archwilio’r achos hwnnw. Hynny yw, mae dau beth yn bwysig i’w etholaeth ef. Yn gyntaf oll, wrth gwrs, ceir seilwaith, gyda band eang yn un elfen o hynny. Yn ail, ceir problem gyda'r grid trydan, sy’n ddadleuol, rwy’n deall, yn ei etholaeth ef, ond nid yw’r grid presennol yn arbennig o gryf pan ddaw i ddatblygu gweithgynhyrchu yn y dyfodol. Mae e'n gwybod, fel y gwn innau, pa mor ddadleuol yw peilonau yn ei etholaeth, felly fe wnaf i ei gadael hi yn y fan yna. Ond, mae'n fater y bydd angen ei ddatrys yn y dyfodol. Ond, rwy'n fwy na pharod i ystyried sut y gallai cytundeb twf o'r fath edrych, sut y byddai'n gweithio yn ddaearyddol, hefyd, mewn rhai rhannau o Gymru, ac, wrth gwrs, rwy’n rhannu ei awydd i weld mwy o swyddi a gwell swyddi yn nes at y cartref.