<p>Ardaloedd Menter</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:57, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae llawer o bobl yn teimlo bod Cylchffordd Cymru yn gyfle enfawr a gollwyd i ardal fenter Glynebwy. Yr wythnos diwethaf, gan gyfeirio at gyfarfod a drefnwyd ymlaen llaw gyda'r cwmni, dywedasoch fod y cwmni wedi derbyn y mater o ran y broblem o fod ar y fantolen a'r risgiau yr oedd hynny’n eu peri i ni—ni wnaethant ddadlau â hynny.

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Martin Whitaker,

Yn amlwg mae’r datganiad hwnnw yn anghywir.

Fe’i gwnaed yn eglur gennym nad oeddem yn cytuno â'r asesiad hwn.

Prif Weinidog, pa un ohonoch chi sy’n dweud celwydd?