<p>Lleisiau Cleifion</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:02, 18 Gorffennaf 2017

Wel, ydy, mae, ac wrth gwrs mae’ch Llywodraeth chi yn ymgynghori ar y funud ynglŷn â chael gwared â chynghorau iechyd cymunedol statudol. Rydw i’n gweld hwn yn gam yn ôl, ac yn gam peryglus, a dweud y gwir, yn enwedig i ni yn y gogledd, oherwydd mae angen llais cryf, annibynnol gyda phresenoldeb lleol sy’n gallu herio’r byrddau iechyd a herio’r Llywodraeth hefyd pan fod angen gwneud hynny. Mae’r cyngor iechyd yn y gogledd wedi gwneud dros 500 o ymweliadau ward yn y flwyddyn diwethaf, sef rhyw 500 yn fwy nag y mae Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru wedi’u gwneud yn y gogledd. Mae angen ehangu rôl y cyngor iechyd nid ei ganoli i mewn i ryw gorff genedlaethol annelwig. Nawr, mae’r model newydd sydd yn cael yn grybwyll yn eich ymgynghoriad chi wedi’i seilio ar gyngor iechyd yr Alban, sydd wedi’i ddisgrifio yn ddiweddar fel ‘toothless hamster’. A ydych chi’n cytuno y byddai dilyn y trywydd hwnnw yng Nghymru yn gamgymeriad mawr?