Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Wel, rydym ni’n gwybod bod sawl un wedi dadlau bod eisiau model newydd er mwyn sicrhau bod yna gynrychiolaeth effeithiol o ddinasyddion ynglŷn ag iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw hwn yn rhywbeth sy’n mynd i wanhau llais y dinasyddion. Rydym ni’n moyn clywed beth yw barn pobl ynglŷn â’r cynlluniau sydd gyda ni ar gyfer corff annibynnol newydd, ac wrth gwrs rydym ni’n hapus iawn i glywed beth sydd ag Aelodau ac aelodau o’r cyhoedd i’w ddweud i sicrhau bod hwn yn rhywbeth sy’n cryfhau llais cleifion.