Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch, Prif Weinidog. Cefais innau hefyd gyfarfod â Damian Hinds ddydd Mercher diwethaf, ynghyd â'r AS dros Lanelli, Nia Griffith, a chanfuwyd gennym unwaith eto ei fod yn foneddigaidd, ond yn ddifater ynghylch ffawd y gweithwyr yn Llanelli, lle bydd y 150 o swyddi yn cael eu hadleoli. Amcangyfrifir na fydd 50 ohonynt yn gallu manteisio ar y cynnig i adleoli gan nad yw’n ymarferol, yn syml, i allu teithio i Gaerdydd ar gyfer gwaith rhan-amser. Bydd yr effaith yn sylweddol mewn ardaloedd fel Llanelli. Er gwaethaf addewid Prif Weinidog y DU yn rhan o'i strategaeth ddiwydiannol i ledaenu’r cyfoeth, ac, fel y dywedwch, er gwaethaf cynnig Llywodraeth Cymru i helpu i adleoli’r swyddfeydd i gynorthwyo'r Adran Gwaith a Phensiynau, nid oedd unrhyw fwriad i ymgysylltu o ddifrif gyda Llywodraeth Cymru ar hyn. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei strategaeth economaidd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a wnewch chi sicrhau bod darpariaethau penodol i ail-gydbwyso'r economi i wneud iawn am y rhaglen ganoli hon y mae'r Torïaid yn ei gwthio drwyddo?