<p>Yr Adran Gwaith a Phensiynau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:11, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, ein mantra ni yw 'gwell swyddi, yn nes at y cartref'. Mae hynny’n llywio’r hyn a wnawn. Rydym ni’n gwybod ei bod hi’n hynod bwysig bod swyddi Llywodraeth ar gael ledled Cymru. Rydym ni wedi gwneud hynny; rydym ni wedi agor ein swyddfeydd ledled Cymru. Y swyddfeydd hynny a oedd yn bodoli yng Nghaerfyrddin, yng Nghaernarfon ac yn Llandrindod, rydym ni wedi gwrthwynebu erioed y pwysau i gael gwared arnynt. Maen nhw’n dal i fod yno, gan ein bod ni’n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw i'r economi leol. Yn anffodus, nid yw’r un egwyddorion a gwerthoedd yn cael eu rhannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.