<p>Yr Adran Gwaith a Phensiynau</p>

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

8. Pa gamau y bydd y Prif Weinidog yn eu cymryd i wrthgydbwyso rhaglen canoli swyddi Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r Adran Gwaith a Phensiynau? OAQ(5)0742(FM)

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:10, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Cafodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth gyfarfod gyda Damian Hinds AS, y Gweinidog dros gyflogaeth, ddydd Iau diwethaf. Pwysleisiodd ein Gweinidog ni ein pryderon dwys ac anogodd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried atebion eraill, gan gynnwys cyd-leoli pan fo hynny'n ymarferol, i sicrhau y gellir cadw swyddi da yn lleol.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Cefais innau hefyd gyfarfod â Damian Hinds ddydd Mercher diwethaf, ynghyd â'r AS dros Lanelli, Nia Griffith, a chanfuwyd gennym unwaith eto ei fod yn foneddigaidd, ond yn ddifater ynghylch ffawd y gweithwyr yn Llanelli, lle bydd y 150 o swyddi yn cael eu hadleoli. Amcangyfrifir na fydd 50 ohonynt yn gallu manteisio ar y cynnig i adleoli gan nad yw’n ymarferol, yn syml, i allu teithio i Gaerdydd ar gyfer gwaith rhan-amser. Bydd yr effaith yn sylweddol mewn ardaloedd fel Llanelli. Er gwaethaf addewid Prif Weinidog y DU yn rhan o'i strategaeth ddiwydiannol i ledaenu’r cyfoeth, ac, fel y dywedwch, er gwaethaf cynnig Llywodraeth Cymru i helpu i adleoli’r swyddfeydd i gynorthwyo'r Adran Gwaith a Phensiynau, nid oedd unrhyw fwriad i ymgysylltu o ddifrif gyda Llywodraeth Cymru ar hyn. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei strategaeth economaidd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a wnewch chi sicrhau bod darpariaethau penodol i ail-gydbwyso'r economi i wneud iawn am y rhaglen ganoli hon y mae'r Torïaid yn ei gwthio drwyddo?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:11, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, ein mantra ni yw 'gwell swyddi, yn nes at y cartref'. Mae hynny’n llywio’r hyn a wnawn. Rydym ni’n gwybod ei bod hi’n hynod bwysig bod swyddi Llywodraeth ar gael ledled Cymru. Rydym ni wedi gwneud hynny; rydym ni wedi agor ein swyddfeydd ledled Cymru. Y swyddfeydd hynny a oedd yn bodoli yng Nghaerfyrddin, yng Nghaernarfon ac yn Llandrindod, rydym ni wedi gwrthwynebu erioed y pwysau i gael gwared arnynt. Maen nhw’n dal i fod yno, gan ein bod ni’n gwybod pa mor bwysig ydyn nhw i'r economi leol. Yn anffodus, nid yw’r un egwyddorion a gwerthoedd yn cael eu rhannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

Mae’n siomedig iawn, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd yn Llanelli, yn benodol y ffaith bod cynifer o bobl, efallai, ddim yn gallu symud ac ail-leoli. Ond gan droi at eich ymateb chi i Lee Waters, mae eich strategaeth swyddfeydd chi yn sôn am gau swyddfeydd hefyd. Rydych chi’n sôn am ostwng nifer y swyddfeydd i rywbeth fel 14 neu 15. Felly, ym mha ffordd, a dweud y gwir, a ydych chi yn wahanol i’r DWP?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 18 Gorffennaf 2017

Wel, mae yna rai swyddfeydd wedi cau dros y blynyddoedd—bach iawn o bobl oedd yn gweithio ynddyn nhw ac roedden nhw’n agos iawn at swyddfeydd eraill. Beth wnawn ni fyth yw canoli swyddi yn y dyfodol. Dyna pam, wrth gwrs, mae swyddi wedi symud mas o Gaerdydd dros y 10 mlynedd diwethaf. Ac, wrth gwrs, mae hynny’n rhywbeth rŷm ni’n moyn sicrhau sy’n datblygu eto yn y pen draw.