Part of the debate – Senedd Cymru am 7:06 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Ac, yn gyffredinol, roedd y Pwyllgor Cyllid yn fodlon ar y cynigion, ac yn nodi bod y dyraniadau yn y gyllideb atodol hon yn gymharol fach. Fodd bynnag, croesawodd y pwyllgor y cyfle i drafod y newidiadau gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, yn enwedig ei ymrwymiad i barhau i ddefnyddio proses y gyllideb atodol.
O ran y cyllid ar gyfer y portffolios gofal cymdeithasol ac iechyd, llesiant a chwaraeon, bu’r pwyllgor yn trafod y ddau ddyraniad refeniw a wnaed o’r cronfeydd wrth gefn, sef £20 miliwn ar gyfer arian i ofal cymdeithasol, a £7.2 miliwn ar gyfer y gordal iechyd mewnfudo, fel rydym newydd glywed. O ran yr £20 miliwn, rydym yn nodi mai swm y cynnydd cyffredinol yw £18.7 miliwn mewn gwirionedd, oherwydd trosglwyddiadau allan o faes rhaglenni gwariant gwasanaethau cymdeithasol i fannau eraill yn y prif grŵp gwariant. Fodd bynnag, wedi dweud hynny, roeddem yn falch o weld bod y cyllid yn cael ei ddyrannu i wasanaethau cymdeithasol, ac yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol yn unol â’u anghenion, ac rwy’n credu bydd fy nghyfaill Mike Hedges yn dweud ychydig mwy am y drefn honno.
O ran benthyca, mae gan y pwyllgor ddiddordeb mewn penderfyniadau i ailddosbarthu dyled, er enghraifft gwarantau dyled a dyled cymdeithasau tai, a sut y gallai hyn effeithio ar flaenoriaethu o ran gwariant cyfalaf a chynlluniau benthyca yn y dyfodol. Byddwn yn ystyried hyn wrth graffu ar y gyllideb ddrafft yn yr hydref. Cawsom gyfle hefyd i ystyried yn gryno oblygiadau’r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen i gefnogi Cylchffordd Cymru o ran y gyllideb. Cawsom sicrhad gan Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd unrhyw brosiectau eraill yn wynebu’r un cyfyngiadau o ran y costau sy’n cael eu nodi yn y cyfrifon, a’r costau na chânt eu nodi yn y cyfrifon. Mae’n sicr y bydd rhagor o waith craffu ar oblygiadau’r penderfyniad hwn wrth i’r Cynulliad archwilio’r gyllideb ddrafft, ond mae’n enghraifft o ba mor fuddiol yw hi i gael cyllideb atodol i gael craffu ar y broses gyllidol gyda’r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae’r prif grŵp gwariant economi a seilwaith yn dangos dyraniad ychwanegol ar gyfer darparu Wi-Fi ar drenau ac mewn gorsafoedd. Rydym yn annog—a dyma unig argymhelliad y pwyllgor—Llywodraeth Cymru i sicrhau bod contractau ar gyfer unrhyw fasnachfraint drenau yn y dyfodol yn cael eu drafftio’n dynn er mwyn osgoi gosod cyfrifoldeb ar y cwmnïau i ailfuddsoddi unrhyw elw er mwyn talu am welliannau.
O ran y cyllid ar gyfer y byrddau iechyd, y sefyllfa gyfanredol ar gyfer yr holl fyrddau iechyd lleol am y cyfnod tair blynedd hyd at 2016-17 oedd gorwariant net o £253 miliwn, sef bron £0.25 biliwn, wrth gwrs. Nodwn fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i fodloni gofynion ariannol y byrddau iechyd, a ni chytunwyd eto sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ad-dalu. Rydym yn dal i bryderu am orwariant y byrddau iechyd, ac mae effaith Deddf cyllid y gwasanaeth iechyd genedlaethol o ddiddordeb i nifer o bwyllgorau’r Cynulliad ar hyn o bryd. Felly, byddaf, fel Cadeirydd, yn cysylltu â Chadeiryddion y pwyllgorau hynny, er mwyn sicrhau bod y mater yn cael ei ystyried yn briodol yn y dyfodol.