Part of the debate – Senedd Cymru am 7:09 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw, ac o fod wedi cymryd rhan yn y gwaith craffu ar y gyllideb atodol gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad a gafodd ei grybwyll gan Ysgrifennydd y Cabinet yn gynharach, ac mae casgliadau hwnnw yn ein hadroddiad, adroddiad eithaf cryno, sydd wir werth ei ddarllen—byr, ie—ond werth ei ddarllen pan gaiff yr Aelodau gyfle i wneud hynny.
Hon yw’r gyllideb atodol gyntaf, fel yr ydym wedi ei glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf i gytuno â geiriau Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Efallai mai dim ond un modd technegol o wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i gyllideb yw cyllideb atodol, ond fe ddaeth y Pwyllgor Cyllid i'r casgliad ei fod yn fodd priodol a'r mecanwaith mwyaf priodol i wneud y math hwn o addasiadau yn ystod y flwyddyn. Mae angen i ni sicrhau ei fod yn parhau i gael ei ddefnyddio fel y mecanwaith yn y dyfodol gan Ysgrifenyddion cyllid y dyfodol. Mae'n dryloyw, yn ddealladwy ac mae'n system sydd wedi gweithio yn absenoldeb datrysiad gwell. Rydym yn credu mai cyllidebau atodol yw'r ffordd ymlaen. Ac rydym ni yn credu bod Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wedi ymwneud â’r pwyllgor mewn modd agored a thryloyw iawn, ond fe wnaethom ni gwestiynu pa un a fyddai Ysgrifenyddion y Cabinet dros gyllid yr un mor agored yn y dyfodol felly gallai fod achos dros edrych ar sicrhau cynnal proses y gyllideb atodol yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y broses mor ddidrafferth yn y dyfodol ag y mae hi wedi bod hyd yn hyn.
Heb fynd i’r holl feysydd y mae Cadeirydd y pwyllgor wedi eu crybwyll, rwyf yn gwerthfawrogi mai cyllideb atodol weinyddol yw hon yn bennaf a’i bod yn cynnwys addasiadau a gwahanol symiau canlyniadol i floc Cymru, a ddeilliodd o gyllideb 2017 y DU.
Yn benodol, croesawaf yr £20 miliwn ar gyfer bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, a hefyd y ddarpariaeth o £750,000 ar gyfer Wi-Fi ar drenau ac mewn gorsafoedd. Trafodwyd hynny yn helaeth iawn yn ystod ein sesiynau craffu. Roedd hynny i'w groesawu. Fodd bynnag, mae’n ddrwg gennyf ddweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ymatal ar gynnig heddiw gan ei fod yn y pen draw yn gwneud addasiadau i’r gyllideb flaenorol, ac nid oeddem ni’n cefnogi honno.