Part of the debate – Senedd Cymru am 7:12 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Byddaf i’n fyr iawn, Llywydd. Byddwn ni hefyd yn ymatal oherwydd mae hynny’n unol â’r hyn a wnaethom ni ar y gyllideb y mae’r gyllideb atodol yma yn ei newid, wrth gwrs. Rwy’n gwybod bod gyda fi ‘blaenorol’—‘previous’, felly—gyda’r gyllideb atodol ond roeddwn i’n meddwl y byddai’n well i mi ddweud wrth Ysgrifennydd y Cabinet fy mod i’n gadael i’r gyllideb atodol yma fynd trwyddo. Rwy’n credu fy mod i wedi ei ypsetio fe unwaith yn barod heddiw felly nid ydw i’n mynd i’w wneud yr ail waith. Nid ydw i’n credu bod yna lawer gen i i’w ychwanegu at y craffu manwl. Yr unig beth y byddwn i yn ei ddweud yw bod lot o graffu ar y cyllidebau atodol—rwy’n credu ei bod yn beth da bod yna gyllidebau atodol—ond a ydym ni’n cael y balans iawn gyda’r brif gyllideb a’r lefel o wybodaeth sydd gyda ni? Roedd yna gyfeiriad at y ffaith nad oes angen, a dweud y gwir, unrhyw arian ychwanegol ar gyfer gweithredu’r polisi newydd ar gyfer y parc ceir newydd yng Nglyn Ebwy oherwydd bod modd symud arian o fewn yr adnoddau sydd yno, sydd yn codi cwestiwn gen i, a dweud y gwir: a oes yna ddigon o dryloywder a manylder gyda ni, wrth basio’r gyllideb lawn, ynglŷn â beth yw dibenion penodol y symiau sydd yn cael eu dynodi o dan y prif benawdau? Felly, mae’n fater o gael y balans. Mae lot o graffu ar y gyllideb atodol yma—sydd mewn gwirionedd, fel roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ddweud, yn newidiadau gweinyddol, a dweud y gwir, lle efallai nad ydym ni cweit wedi cael digon o wybodaeth eto wrth edrych ar y gyllideb gyflawn, er mwyn ein galluogi ni i wneud ein gwaith fel Senedd.