11. 10. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:14 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 7:14, 18 Gorffennaf 2017

Wel, rwy’n falch. ‘Haleliwia’, ddywedaf i, wrth gwrs. Rŷm ni i gyd yn edrych ymlaen. Mae’n biti ein bod ni’n gorfod aros tan ar ôl yr haf ar gyfer hynny, ond yn sicr rwy’n edrych ymlaen at weld hefyd beth fydd canlyniadau’r trafodaethau eraill sydd yn mynd ymlaen rhwng y Pwyllgor Cyllid a’r Ysgrifennydd Cabinet o ran ailstrwythuro’r broses gyfan, er mwyn galluogi’r math o dryloywedd roeddwn i’n cyfeirio ato’n gynt.