11. 10. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:15 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 7:15, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Llywydd. Rwy’n awyddus i godi dim ond tri phwynt byr iawn. Yn gyntaf, croesawaf benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynhyrchu cyllideb atodol gyntaf ar gyfer ei chraffu gan y Pwyllgor Cyllid. Cytunaf yn gryf ag argymhelliad y Pwyllgor Cyllid, a’r hyn a ddywedwyd gan Nick Ramsay a Simon Thomas, sef:

Er nad yw'r newidiadau yn y gyllideb atodol hon yn sylweddol, mae'r Pwyllgor yn cytuno ag Ysgrifennydd y Cabinet fod cyflwyno cyllideb atodol yn fecanwaith priodol ar y cam hwn ac yn dymuno i’r weithdrefn hon barhau i gael ei defnyddio.'

Yn anffodus, ni chafodd ei roi yn y Rheolau Sefydlog, ond rwy'n credu ei fod yn dod, yn awr, yn ddefod ac arfer ei fod gennym, ac rwyf yn credu y byddai unrhyw Ysgrifennydd y Cabinet yn y dyfodol na fyddai’n dod ag ef ymlaen yn wynebu Pwyllgor Cyllid a Chynulliad anhapus iawn.

Ni waeth pa mor fach yw’r newid, rwyf yn credu y dylid cynhyrchu cyllideb atodol. Mae'n rhoi eglurder i'r Pwyllgor Cyllid ac i'r Siambr hon, llawer mwy na fydda’r dewis arall, sef llythyr at y Pwyllgor Cyllid, yn ei wneud, dim ond dweud wrthym am yr hyn oedd newydd ddigwydd. Rwy'n credu mai hon yw’r ffordd iawn, ac rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi parhau i wneud hyn.

Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw pa mor falch yr wyf fod yr arian ychwanegol i’r gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol nid drwy'r asesiad o wariant safonol llawn, ond trwy ran y gwasanaethau cymdeithasol o'r asesiad o wariant safonol.  Dim ond gwahaniaeth bach fydd hyn yn ei wneud, ond mae'r egwyddor, yn fy marn i, yn un pwysig, ac yn un yr wyf wedi galw amdani o’r blaen. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, oherwydd pe byddai symiau mwy o lawer dan sylw, byddai'n dechrau cael effaith sylweddol ar ba awdurdod fyddai’n cael yr arian ychwanegol.

Yn olaf, ar iechyd, nododd y pwyllgor bod Llywodraeth Cymru, ar gyfer rhai byrddau iechyd lleol, yn parhau i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i alluogi byrddau iechyd lleol i fodloni eu galwadau ariannol, a bod ad-dalu y gorwario hwn eto i'w gytuno. Mae'r pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd ystyried yr effaith y mae Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 wedi ei chael o ran nodi gwelliannau i gynllunio gwasanaethau, cynllunio ariannol, a chynllunio’r gweithlu, cynaliadwyedd gwasanaethau yn y dyfodol, a gwaith i fynd i'r afael a pha un a yw'r dyraniadau rhwng byrddau iechyd lleol yn adlewyrchu anghenion yn gywir. Yn syml, a yw’r gorwario oherwydd rheolaeth ariannol wael neu a yw'r gyfran ariannu yn anghywir?