Part of the debate – Senedd Cymru am 7:22 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
[Yn parhau.]—pryder difrifol am ein safonau addysgol yng Nghymru, a thangyflawni mewn llawer o agweddau eraill ar ddarpariaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r cynigion a nodir yn y darn hwn o ddeddfwriaeth arfaethedig yn ceisio dwyn yr amddiffyniad rhag streicio annemocrataidd oddi wrth y cyhoedd sy’n talu eu trethi yng Nghymru. Mae’r cynigion hyn yn ceisio tanseilio gwerthoedd tryloywder, atebolrwydd a bod yn agored yn y sector cyhoeddus, a bydd hyn yn galluogi’r ychydig i amharu ar y lliaws, ac yn atal y defnydd o weithwyr asiantaeth i gadw gwasanaethau allweddol i redeg yn ystod streiciau mewn sectorau arbennig.
Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r Bil hwn. Rydym yn credu bod Llywodraeth y DU yn iawn i gyflwyno Deddf yr Undebau Llafur 2016—Deddf sy'n ailgydbwyso buddiannau cyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd drwy roi rhyddid i undebau llafur fynd ar streic, ac nad yw, yn groes i'r hyn y mae’n ymddangos bod llawer o bobl eraill yn ei gredu, yn cynnig atal amser cyfleuster, ond mae yn sicrhau mwy o dryloywder drwy ymestyn y gofyniad i gyhoeddi gwybodaeth am yr amser a'r arian a neilltuir i hyn yn y sector cyhoeddus.
Mae Deddf y DU hefyd yn symud i roi diwedd ar ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres, pan fo’r pwrs cyhoeddus yn syml yn talu amdano. Mae'r ffaith bod cost wirioneddol hyn gymaint yn uwch nag y byddai'r dystiolaeth a gafwyd yn y pwyllgor yn ein harwain i gredu, yn rhoi cymhelliant clir ar gyfer gwella tryloywder yn y sector hwn—bron i £0.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer y ddarpariaeth pro rata o ddidynnu taliadau tanysgrifio i undebau drwy’r gyflogres ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw hwn yn swm bach iawn, ac nid yw'n ddibwys, fel y dywedwyd wrthym mewn tystiolaeth. Mae hwn yn swm sylweddol o arian y byddai ein gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn gwerthfawrogi gallu ei fuddsoddi mewn mannau eraill, drwy gyflogi gweithwyr cymdeithasol neu gynorthwywyr addysgu ychwanegol, er enghraifft.
Llywydd, mae bwriad Llywodraeth y DU ar gyfer y Ddeddf hon yn parhau i fod yn ddigyfnewid. Dylai'r mesurau diogelwch newydd hyn gael eu defnyddio i amddiffyn cyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig. Bydd Bil Cymru yn egluro bod cysylltiadau diwydiannol yn fater a gadwyd, a bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu ar y cyfle cyntaf posibl, yn dilyn rhoi Deddf Cymru ar waith, er mwyn sicrhau bod deddfwriaeth yn amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus yn briodol.
Rwy'n falch iawn o gael gwrthwynebu'r Bil hwn.