12. 11. Dadl: Cyfnod 4 Bil yr Undebau Llafur (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:25 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 7:25, 18 Gorffennaf 2017

Hoffwn atgoffa pawb fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu’n gryf Deddf Undebau Llafur y wladwriaeth Brydeinig pan gafodd ei chyflwyno yma yn ystod y Cynulliad diwethaf. Rydym ni hefyd wedi gwrthwynebu’r holl welliannau a gafodd eu cyflwyno gan y Ceidwadwyr yn y lle hwn trwy gydol taith y Bil yma yn ystod tymor y Cynulliad yma, gan herio pob ymdrech ddi-flino gan y Ceidwadwyr i ymosod ar hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus yma yng Nghymru. Dim ond drwy bartneriaeth rhwng gweithwyr, diwydiant, cyflogwyr a’r Llywodraeth y gallwn ni wneud ein gorau dros ein gwlad a thros ein heconomi, a thrwy barchu’r gweithlu yn llawn y gallwn leihau anghydfod a’r angen am weithredu diwydiannol.

Y trueni mwyaf efo’r Bil yma ydy’r ffaith bod angen i’w wthio fo drwy’r broses ddeddfwriaethol mor gyflym, a’r rheswm am hynny, wrth gwrs, ydy oherwydd bod yn rhaid ei basio fo cyn y bydd Ddeddf Cymru yn weithredol gan, wrth gwrs, y bydd Deddf Cymru yn cymryd pwerau o’r Cynulliad yma. Mae’n siomedig iawn na chawsom ni, felly, gyfle i ehangu hawliau gweithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, drwy, er enghraifft, ddadwneud rhai o elfennau’r Deddfau sydd yn deillio yn ôl i gyfnod Margaret Thatcher.

Felly, mi fuasem ni wedi gallu creu Deddf i amddiffyn yr hawliau sydd gan weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn barod, ond hefyd Ddeddf a fyddai’n ehangu ar hawliau gweithwyr, ac, yn y broses, gryfhau’r berthynas rhwng y cyflogwr, yr undebau a’r gweithwyr. Efallai, yn wir, y cawn ni gyfle i edrych ar hyn rhywdro eto.

Mae’r Bil yma yn ymgais glir gan y sefydliad cenedlaethol yma i amddiffyn hawliau gweithwyr yng Nghymru oddi wrth ymosodiadau’r Ceidwadwyr ar yr hawliau hynny, ac, yn amlwg, mi fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid y Bil hwn heddiw yma. Mae Plaid Cymru yn credu mewn amddiffyn a hyrwyddo’r rhan gadarnhaol y gall ac y dylai undebau llafur ei chwarae yng nghymdeithas Cymru.