Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Fel teithiwr rheilffordd rheolaidd a chymudwr, rwyf wedi cymryd diddordeb brwd yn y fasnachfraint nesaf ac rwy’n gwybod bod llawer o Aelodau eraill yn y Siambr yn yr un sefyllfa. Nawr, rydym yn gwybod, o ran pwy fydd yn cynnal masnachfraint Cymru a'r gororau, bod pedwar o gynigwyr o’r sector preifat wedi cyflwyno eu hunain. Mae diddordeb mewn gwladoli rheilffyrdd a pherchenogaeth gyhoeddus o bob cwr o farn y cyhoedd. Mae’r rheswm arferol pam mae pobl am i’r rheilffyrdd fod mewn dwylo cyhoeddus yn ymwneud ag elw’n diflannu o’r rhwydwaith, ac mewn llawer o achosion ddim hyd yn oed yn mynd i ddwylo preifat, ond i mewn i reilffyrdd gwladwriaethol gwledydd eraill—ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweld yr eironi hwnnw.
Hyd yn oed yng Nghymru, lle mae elw ar reilffyrdd yn isel a chymorthdaliadau’n uchel, mae elw’n dal i adael rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a mynd i'r Almaen. Nawr, rydym yn gwybod ei bod yn ymddangos nad yw’r sefyllfa ddeddfwriaethol ar lefel y DU yn caniatáu i gynigwyr o’r sector cyhoeddus gystadlu am y masnachfreintiau hyn, ac mae Deddf Cymru 2017, a gefnogwyd gan y Blaid Lafur yma ond nid gan fy mhlaid i, yn parhau i wrthod perchenogaeth gan y sector cyhoeddus. Felly, rwyf am droi fy sylw at fodelau di-ddifidend neu ddielw. Rydych wedi ymrwymo dro ar ôl tro i’r rhain yn eich gwahanol faniffestos. A yw'n wir nad yw rheilffordd ddielw, yn unol â'ch maniffesto, yn digwydd ac na all hynny ddigwydd nawr o fewn y fasnachfraint nesaf?
I symud ymlaen at fater gorlenwi ac ansawdd y cerbydau, sylwais ar y cyhoeddiad a wnaethoch ddoe bod pum trên newydd yn cael eu darparu y flwyddyn nesaf—pump. Rydym yn gwybod mai’r broblem fwyaf gyda'r fasnachfraint bresennol yw y cafodd ei dyfarnu ar sail dim twf. Cafodd y camgymeriad hwnnw ei gydnabod gan Lywodraethau Cymru blaenorol, ond doedd dim llawer y gellid ei wneud yn ei gylch. Nawr mae'n rhaid inni osgoi camgymeriadau'r gorffennol a gofalu bod gennym ffordd o ymdrin ag unrhyw heriau sy'n codi yn y dyfodol. Byddai cymal terfynu’n caniatáu inni adolygu’r fasnachfraint nesaf yn rheolaidd yn ystod cyfnod y contract. Byddai hefyd yn caniatáu i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys Llywodraeth Plaid Cymru yn y dyfodol, yr opsiwn i fynd â’r rheilffyrdd i berchnogaeth gyhoeddus pe byddai’r ddeddfwriaeth yn newid a bod hynny’n dod yn gyfreithlon. Felly, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys cymal terfynu i alluogi hynny i ddigwydd?
Mae fy nghwestiwn olaf ynglŷn â thrydaneiddio, ac mae'n gysylltiedig â chyhoeddiad ddoe am gerbydau. Bydd trenau trydan, ar ba ffurf bynnag, yn darparu profiad glanach, gwyrddach a mwy cyfforddus i deithwyr. A yw trydaneiddio’n dal i fod ar y trywydd iawn yng Nghymru, ac a gaiff ei gyflwyno yn unol â'r amserlen?