Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch yn fawr i Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n gwybod ein bod wedi cyfarfod ac wedi cael sgyrsiau am ddatblygu’r cynigion hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n sicr yn gefnogol iawn i lawer–. Ceir llawer o uchelgais yma, ac, wrth gwrs, mae uchelgais a deddfwriaeth a chyflawni yn golygu adnoddau, ac rwy’n ofni na fydd digon o adnoddau gennych chi, ond nid wyf yn credu y byddai neb mewn gwirionedd yn dilorni’r weledigaeth yr ydych chi’n ceisio ei gwireddu. Yn amlwg, byddaf yn dechrau–. Edrychaf ar bob elfen yn ei thro a dweud y gwir.
Mae angen dybryd i ddiwygio cynghorau tref a chymuned. Dyma haen o ddemocratiaeth sy’n gost i’n trethdalwr ac fe ddylai fod yn dryloyw ac yn atebol, ac fe ddylai fod modd gwireddu’r amcanion mewn gwirionedd. Ond, yn anffodus, ar sawl achlysur, rwyf wedi derbyn cwynion a phryderon gan drigolion ynghylch didwylledd ac eglurder ar yr haen honno o lywodraeth, ac rwy’n ymwybodol bod yr aelodau ar y bwrdd, wrth gwrs, yn gyn Aelodau Cynulliad: Gwenda Thomas, Rhodri Glyn Thomas, ac, wrth gwrs, mae gennym ni William Graham. Felly, dyma dri pherson y mae gen i bob ffydd ynddyn nhw, wrth symud ymlaen.
Mae seddi diwrthwynebiad yn broblem nid yn unig ar gynghorau tref ond hefyd mewn prif awdurdodau. Yn yr etholiadau lleol diwethaf cafodd 92 ymgeisydd awdurdod—ymgeiswyr prif awdurdod—sedd heb gystadleuaeth, ac rwy’n gwybod bod hyn wedi ei grybwyll sawl gwaith yn Aberconwy, sef pam roedd pobl yn mynd i bleidleisio ac nad oeddent yn ymwybodol nad oedd unrhyw etholiad yn digwydd, oherwydd bod rhywun wedi hawlio’r sedd ar y cyngor yn ddi-wrthwynebiad. Felly, mae a wnelo eich prif nod cyffredinol â hygyrchedd, â chaniatáu gwell cyfle i bobl bleidleisio, ond rwyf hefyd o'r farn bod yn rhaid i ni gofio bod angen ymgeiswyr ar bobl y gallan nhw bleidleisio drostynt, felly mae hynny’n rhywbeth y gallwn ni weithio arno o bosib, wrth symud ymlaen.
Mae'r ymgynghoriad ynghylch y posibilrwydd o ddiwygio system etholiadol llywodraeth leol yn ddiddorol, ac, unwaith eto, mae'n ymwneud â bod yn agored ac ennyn diddordeb pobl, gwneud pethau’n fwy hwylus i gynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Pwy allai ddadlau â hynny?
Rwy’n cefnogi nifer o'r cynigion a amlinellwyd. Mae angen i ni fod yn fwy hyblyg er mwyn galluogi gweithwyr mewn cynghorau i sefyll etholiad fel cynghorwyr. Fe wn i am sefyllfa—ac rwyf wedi codi'r mater hwn gydag Ysgrifennydd y Cabinet—lle roedd rhywun ar gytundeb o bedair awr yr wythnos ac na châi sefyll i fod yn ymgeisydd ar gyfer y cyngor. Yn amlwg, ni fyddai achos o wrthdaro buddiannau heblaw ar ôl person i’r hwnnw gael ei ethol, petai yn cael ei ethol, felly mae angen i ni edrych ar hynny.
Mae angen i ni symleiddio pleidleisio drwy'r post. Rwy'n siŵr bod Aelodau eraill—hyd yn oed gydag etholiadau’r Cynulliad neu Seneddol, mae’r system bleidleisio trwy'r post, yn ôl pob tebyg ar draws y DU, ond rwy’n gwybod ei fod yn wir yng Nghymru, yn ddryslyd iawn ar gyfer yr henoed, pan eu bod yn gorfod rhoi pethau mewn gwahanol amlenni, ac yna, wyddoch chi, eu llofnodion ac ati. Rwyf wedi gweld cymaint o bapurau pleidleisio wedi eu difetha, pan fo pobl yn meddwl eu bod wedi pleidleisio yn gywir. Felly, hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet—a ydych chi’n bwriadu rhoi mwy o gig ar yr asgwrn ynglŷn â hyn.
Mae pleidleisio drwy ddirprwy yn elfen arall. Mae'n ffordd o alluogi rhywun i bleidleisio pan nad yw’n bresennol ar y diwrnod hwnnw mewn gwirionedd. Rwy’n gwybod bod eich cynlluniau ar gyfer pleidleisio electronig a chael un gofrestr etholiadol yn syniad da, ond serch hynny mae mecanwaith yn bod ar hyn o bryd o’r enw pleidleisio drwy ddirprwy, ac rwy’n gwybod pryd bynnag yr wyf i wedi sôn wrth bobl, nid ynghylch pleidleisio drwy'r post, ond am bleidleisio drwy ddirprwy, maen nhw wedi edrych arnaf gydag elfen o anghrediniaeth, heb ddeall beth yw pleidleisio drwy ddirprwy. Nid wyf yn sicr ai’r gair 'procsi' yw'r ffordd orau i'w ddisgrifio mewn gwirionedd. Felly, pe gallech chi ystyried symleiddio'r broses honno, mae'n ddull arall o’i gwneud yn haws i bobl bleidleisio os ydyn nhw’n awyddus i wneud hynny.
Nodaf eich cynnig i awdurdodau gael dewis rhwng systemau etholiadol—y cyntaf i’r felin neu bleidlais sengl drosglwyddadwy. Meddwl oeddwn i tybed a fyddai rhywfaint o ddryswch rhwng gwahanol awdurdodau. Ydych chi mewn gwirionedd yn ystyried cyflwyno hyn ar sail awdurdod lleol, yn unigol? Neu a yw hyn yn mynd i fod yn unffurf ledled Cymru?
Gan symud ymlaen at y mater o feiri wedi eu hethol yn uniongyrchol, rwyf eisoes wedi datgan yn glir fy mod i o blaid hyn, o ran awdurdod lleol—nid yn rhanbarthol—. Yn Lloegr, mae gofyniad o 10 y cant ar gyfer refferendwm. Nac oes, fel arall y mae hi: 5 y cant yn Lloegr, 10 y cant yma yng Nghymru. Rwy'n meddwl, unwaith eto, tybed a oes modd efallai inni ystyried gostwng y trothwy hwnnw er mwyn i awdurdodau lleol—neu bobl, y gymuned o fewn ardaloedd awdurdodau lleol, y gallan nhw mewn gwirionedd efallai fynd allan a—.Mae'n ffigur gwell i’w ddewis, onid yw, 5 y cant?
Rwyf wedi codi'r mater hwn gyda chi o'r blaen—mae cynghorau ar draws y ffin yn talu cyflogau sydd ar gyfartaledd tua hanner yr hyn a delir yng Nghymru, ac mae cynghorwyr yn cynrychioli mwy na dwywaith y nifer o etholwyr. Dyma enghraifft: Yn Lloegr, cyfartaledd o £6,893, ac maen nhw’n cynrychioli 8,959. Yng Nghymru, gallan nhw fod ar £13,300 a’u cyfartaledd yw 3,300. Felly, mae angen i ni edrych mewn gwirionedd ar gynnig gwerth i’n hetholwyr a’n pleidleiswyr, ac mae yna gydbwysedd yn y fan yma y mae angen mynd i'r afael ag ef.
Nawr, diwygio'r prif gynghorau—yn sicr, rwy’n cytuno ac yn croesawu cydweithio ar swyddogaethau cefn swyddfa. Mae yna lawer o arfer da, ac fe wnes i ddarganfod hynny fy hun mor ddiweddar â’r wythnos diwethaf. Mae pum cyngor dosbarth yng Ngwlad yr Haf yn rhannu canolfan alwwadau ganolog ar gyfer ymholiadau a thaliadau. Nawr, os gellir gwneud hynny dros y ffin, gellir ei wneud yma. Ond, wrth gwrs, oherwydd bod y portffolio hwn wedi bod gennyf ers peth amser, rwy'n ymwybodol o'r holl ganllawiau a phopeth sy'n ymwneud â'r agenda cydweithio, ac roedd honno’n rhaglen a fethodd i Lywodraeth Cymru. Felly, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod pa ddulliau—y ffon, y foronen, neu ychydig o'r ddau—yr ydych chi am eu defnyddio a fydd mewn gwirionedd yn sicrhau y ceir gwell cydweithio. Nid wyf yn ei gweld hi’n ymarferol ein bod ni’n mynd i barhau â 22 prif weithredwr, 22 pennaeth cyllid, 22 pennaeth gwasanaethau cymdeithasol. Rwy'n croesawu cyfuno iechyd a gofal cymdeithasol, a cheir model yma yr ydych chi wedi ei grybwyll yn eich datganiad, ac y dylid ei gyflwyno, rwy’n credu, ledled Cymru.
Soniasoch am hyblygrwydd o dan y tri phrif gyd- bwyllgor llywodraethu rhanbarthol. Mae bwrdd iechyd gogledd Cymru, er enghraifft, wedi ei ddisgrifio yn aml fel un sy’n anhylaw a rhy fawr. Mae gennym ni fwrdd iechyd yno nawr sydd mewn mesurau arbennig. Felly, os ydych chi’n bwriadu modelu llywodraeth leol ar y sail honno, yna mae mwy o waith i'w wneud yn hynny o beth. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wyddoch chi bod gennych chi fy nghefnogaeth i a fy ngrŵp ar gyfer llawer o hyn, wrth symud ymlaen. Byddwn yn chwilio am y glo mân, a byddwn yn craffu ac yn herio pan fyddwn ni’n teimlo y gallai fod yn or-feichus ac yn ddryslyd i'r etholwyr, ac yn fwy costus. Diolch.