Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch i Janet Finch-Saunders am yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma, ond hefyd am ei pharodrwydd i gymryd rhan mewn deialog reolaidd ynglŷn â rhai o'r cynigion hyn ac am y syniadau adeiladol y mae eisoes wedi eu cyfrannu at y ddeialog honno. Rwy’n gobeithio y bydd hi'n gweld bod rhai o'r pethau yr ydym ni yn eu cynnig ynglŷn â chynghorau tref a chymuned yn adlewyrchiad o ran o'i phrofiad uniongyrchol ei hun, ac roeddwn i eisiau diolch iddi yn arbennig am ei chymorth wrth sicrhau gwasanaethau William Graham yn rhan o’r tîm adolygu. Rwy’n cytuno i raddau helaeth â hi bod seddau diwrthwynebiad yn bethau yr hoffem ni weld eu dileu yn ein democratiaeth, o ran y prif gynghorau, ond mae'n nodwedd arbennig o gynghorau tref a chymuned. Ac mae’r rhai sy'n gweithredu yn y maes hwnnw, ac rwy’n credu eu bod yn aml yn gwneud gwaith da iawn, maen nhw eu hunain yn ymwybodol iawn o'r ffaith bod hwn yn fan gwan pan ein bod ni’n cyfeirio ato fel haen ddemocrataidd, pan fod cyn lleied o ddemocratiaeth yn aml yn y ffordd y mae pobl yn y pen draw yn dod yn gynghorwyr tref a chymuned.
Diolchaf i Janet Finch-Saunders am yr hyn a ddywedodd am y cynigion ynglŷn â’r system etholiadol. Rwy'n credu bod hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ni yng Nghymru. Bydd y rhain yn bwerau newydd y byddwn ni’n eu hetifeddu. Mae'r papur ymgynghori yn gymysgedd o nifer fach o gynigion lle’r ydym ni’n dweud bod Llywodraeth Cymru yn eithaf ymrwymedig i ddatblygu syniadau, megis ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed, ac yna ystod llawer ehangach o syniadau lle mae gennym ni ddiddordeb mewn clywed beth sydd gan bobl i'w ddweud. Tynnodd y siaradwr sylw at y cwestiwn yr ydym ni’n ei ofyn yn yr ymgynghoriad ynghylch pa un a ydym ni’n tynnu llinell yn y lle iawn rhwng pobl sy'n gweithio i gyngor ac yn cael sefyll i fod ar y cyngor. Nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth fod, ar un pegwn, prif staff uwch mewn swyddi gwleidyddol-gyfyngedig; ni ddylent gael yr hawl i sefyll etholiad. Ond, ar hyn o bryd, rydym ni’n gwahardd, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders, rhywun sy'n gweithio nifer fach iawn o oriau rhag sefyll mewn etholiad. Mae’r gwaharddiad hwnnw yn disgyn yn anghymesur ar fenywod, ac rydym ni’n gofyn y cwestiwn ynghylch pa un a allem ni dynnu’r llinell mewn lle gwahanol.
Byddai cofrestr electronig ar gyfer Cymru gyfan yn golygu y byddai llai o angen i bleidleisio drwy ddirprwy, ond ni fyddai'n cael gwared arno, oherwydd, petai pobl ar wyliau yn Lloegr neu’n cael eu galw i ffwrdd i weithio yn Lloegr, er enghraifft, byddech yn dal i fod angen pleidleisio drwy ddirprwy. Byddwn yn edrych ar y pwynt mae hi’n ei wneud am y derminoleg sydd o bosib yn ddryslyd.
Mae ein cynigion ar Gynrychiolaeth Gyfrannol ganiataol mewn llywodraeth leol yn union hynny; byddai'n ddewis i awdurdodau lleol ei wneud eu hunain. O ran y trothwy ar gyfer refferendwm i gael meiri etholedig: nid ydym yn bwriadu newid y cyfle i gael refferendwm mewn ardaloedd lle mae galw am faer etholedig, ac, unwaith eto, yn rhan o'r ymgynghoriad, rwy'n ymwybodol iawn y byddwn yn edrych ar fater y trothwy y mae’r Aelod wedi cyfeirio ato. Mae'n debyg nad wyf yn gwbl gytûn â hi ynglŷn â nifer y cynghorwyr sydd gennym ni yng Nghymru. Credaf fod y nifer fwy neu lai yn briodol. Mae'r cynghorwyr yr wyf i’n eu gweld yn gweithio'n galed iawn ac mae ganddyn nhw nifer fawr o bleidleiswyr i’w cynrychioli. Mae'r arolygon etholiadol wedi dechrau yng Ngheredigion, Conwy, Gwynedd a Phowys. Rydym ni’n disgwyl i hynny, maes o law, arwain at ostyngiad bach yn nifer y cynghorwyr yng Nghymru. Mae'r cynigion ar gyfer Cyngor Conwy, er enghraifft, yn cynnig gostyngiad o ychydig dros 10 y cant yn nifer y cynghorwyr a fyddai ar gael ar gyfer yr awdurdod lleol hwnnw.
Yn olaf, i ymateb i'r pwyntiau a wnaed am ddiwygio prif gynghorau, rwy'n credu mai’r gwahaniaeth yn y cynigion a welwch chi gerbron y Cynulliad y prynhawn yma yw eu bod yn ffrwyth gwaith caled i geisio dod i gytundeb gydag awdurdodau lleol, ond hefyd yn benderfyniad, pan fyddwn ni wedi cytuno ar ffordd ymlaen ar weithio rhanbarthol, ar fframweithiau, ar ardaloedd ac ar swyddogaethau, ac yna byddwn yn gwneud hynny yn orfodol. Pan fyddwn ni wedi cytuno, yna bydd angen grym y ddeddfwriaeth o dan y cytundeb hwnnw fel bod pawb yn glir os ydych chi wedi dod at eich gilydd ac wedi cytuno i gyflawni swyddogaeth, nid oes dianc rhag y cytundeb hwnnw.
Rwy'n credu bod hynny er budd awdurdodau lleol. Mae gormod o awdurdodau lleol wedi sôn wrthyf am enghreifftiau lle maen nhw wedi gweithio'n galed iawn ac wedi buddsoddi llawer mewn trefniant rhanbarthol, ac mae un o'r partneriaid yn cerdded ymaith ar y funud olaf, ac mae angen gwneud llawer o waith ymddatod yn gyflym iawn. Ni all awdurdodau lleol yng Nghymru wynebu dyfodol felly, Llywydd. Gweithio rhanbarthol yw ffordd y dyfodol—yn systematig, yn orfodol ond yn gytûn.