Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd Cabinet, am eich parodrwydd i gael deialog barhaol am y materion yma ac am faterion yn eich portffolio chi. Cymhlethdod yr holl haenau o lywodraeth sy’n cael eu creu, yn ogystal â lle mae’r atebolrwydd yn gorwedd a’r craffu yn digwydd—dyna sy’n dod i’r amlwg i mi, beth bynnag, o glywed eich datganiad chi heddiw yma.
Yn benodol, mae gen i bryder mawr fod y berthynas rhwng y dinesydd a’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau yn mynd yn un pell a diystyr. Mae gan hynny oblygiadau mawr i ddemocratiaeth—lle mae pobl yn barod yn teimlo’n ddi-rym mewn penderfyniadau ar faterion sy’n eu heffeithio nhw o ddydd i ddydd. Rwyf wedi dweud hyn o’r blaen, ac rwy’n dal o’r un farn.
Mae hi hefyd yn destun pryder i mi nad ydych chi’n bwriadu cyflwyno’r system bleidleisio gyfrannol—STV—i bob awdurdod yng Nghymru. Yn yr Alban, mae defnyddio’r system bleidleisio gyfrannol yn rhan arferol o ddemocratiaeth, ac mae’n sicrhau bod yna gystadleuaeth ar gyfer holl seddau’r cynghorau a bod yr holl bleidleisiau yn cyfri. Rwyf i o’r farn bod gadael i gynghorau unigol benderfynu a ydyn nhw am gyflwyno system etholiadol gyfrannol yn mynd i achosi dryswch ac yn golygu na fydd yn digwydd yn gyson ar draws Cymru ac, yn wir, na fydd yn digwydd o gwbl. Rwy’n cytuno ei bod hi’n bwysig rhoi rhyddid i gynghorau benderfynu ar nifer fawr o faterion, ond nid yw hwn yn un ohonyn nhw.
Cyn i mi gyflwyno’r tri chwestiwn penodol, mi fyddaf i dipyn bach yn fwy cadarnhaol a datgan cefnogaeth lwyr Plaid Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer etholiadau lleol i bobl 16 ac 17 oed. Mae hyn wedi bod yn bolisi gan Blaid Cymru ers nifer fawr o flynyddoedd, oherwydd rŷm ni’n credu bod llais a chyfraniad pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd yn hollbwysig.
Buasem ni hefyd yn croesawu eich bod chi yn cefnogi ymestyn yr hawl i bawb sy’n byw, yn gweithio ac yn astudio yng Nghymru bleidleisio. Fe ddylai pawb sydd yn galw Cymru yn gartref iddyn nhw, ac sydd eisiau gweld Cymru yn llwyddo, gael y cyfle a’r rhyddid i gymryd rhan mewn etholiadau sydd yn effeithio ar eu bywydau nhw.
Gan droi at y cwestiynau, hoffwn i ddechrau holi pa oblygiadau fyddai gan ymestyn y fasnachfraint etholiadau lleol—beth fyddai hynny yn ei olygu wedyn ar gyfer etholiadau’r Cynulliad? Beth ydy’r berthynas rhwng beth rydych chi yn ei gyflwyno yn y fan hyn a’r drafodaeth sydd yn mynd ymlaen ynglŷn ag etholiadau’r Cynulliad—ychydig o eglurder am hynny?
Ar yr elfen o weithio’n rhanbarthol, rwy’n falch o weld sôn am y gallu i awdurdodau gydweithio i ddatblygu strategaeth ieithyddol ac economaidd ar gyfer y gorllewin, fel yr ydym ni, fel Plaid Cymru, wedi’i argymell yn y Siambr hon, a hefyd adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a llywodraeth leol, o dan gadeiryddiaeth Rhodri Glyn Thomas. Yn dilyn datganiadau o gefnogaeth gennych chi a’r Prif Weinidog yn ddiweddar i hyn, mi fuaswn i’n licio gweld beth ydy’ch gweledigaeth chi. Beth ydych chi’n meddwl ydy manteision cydweithio yn rhanbarthol yn y gorllewin?
Yn olaf, mae’n edrych yn debyg y bydd strategaeth economaidd y Llywodraeth yn rhoi pwyslais mawr ar bolisïau rhanbarthol neu ar weithio’n rhanbarthol, er nad ydym wedi gweld y strategaeth honno eto, a hithau dros flwyddyn ers yr etholiad. Pa gydweithio sydd wedi bod yn digwydd, ac sydd yn digwydd, rhyngoch chi a’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y berthynas yma rhwng y strategaeth economaidd a diwygio llywodraeth leol? Diolch.