Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Gadewch i mi roi’r hyn a ddywedais mewn ffordd wahanol, Llywydd. Rwy'n credu y byddai Janet yn rhagweld nifer llai o gynghorwyr nag yr ydym ni yn ei ragweld. Ac nid oeddwn i’n cytuno gyda hi ar hynny, oherwydd credaf y bydd swyddogaeth y cynghorydd lleol yn ganolog wrth gynorthwyo dinasyddion yn y dyfodol i ddeall system lle y mae rhai penderfyniadau'n cael eu gwneud yn rhanbarthol. Nid wyf yn credu bod hyn yn sylweddol wahanol i'r ffordd mae systemau yn gweithio ar hyn o bryd. Mae cynghorydd lleol yn cael ei ethol i gynrychioli ei ward, ond pan ei fod yn dod i wneud penderfyniadau ar lefel y cyngor, mae’n rhaid iddo ystyried yr hyn sy'n iawn ar gyfer yr holl ardal honno, nid yn unig yr hyn sy'n iawn ar gyfer ei ward ei hun. Mae cynghorwyr bob amser yn gorfod cydbwyso’r tyndra rhwng cynrychioli'r etholwyr lleol a gwybod beth sy'n iawn ar gyfer yr awdurdod cyfan y maen nhw’n ei gynrychioli, yn union fel y mae pobl yn dod i'r Cynulliad hwn yn cynrychioli etholaeth ond wedyn yn siarad o safbwynt eu plaid yn ei chyfanrwydd. Yr hyn y byddwn ni’n ei wneud yw ei gwneud yn ofynnol i arfer y ffordd honno o feddwl yn rhanbarthol. Byddwn yn ei gwneud hi’n gwbl glir bod penderfyniadau yn cael eu gwneud gan aelodau etholedig o blith yr awdurdodau lleol cyfansoddol, ac rydym ni wedi llunio dewislen o ddewisiadau y bydd awdurdodau lleol eu hunain yn gallu ei defnyddio i wneud yn siŵr eu bod yn gallu craffu ar y penderfyniadau, ac y cânt eu dwyn i gyfrif amdanynt ar y lefel awdurdod lleol hwnnw.
Gadewch i mi droi, os caf i, at y cwestiynau a ofynodd Siân Gwenllian tuag at ddiwedd ei chyfraniad. O ran cydweithio rhanbarthol yn y gorllewin, rwyf yn awyddus i ddatblygu’r awgrymiadau a nodwyd yn yr adroddiad a gynhyrchwyd o dan gadeiryddiaeth Rhodri Glyn Thomas. Rwyf eisoes wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn y rhan honno o Gymru ynglŷn â’r ffyrdd y gallan nhw weithio ar draws eu ffiniau ac yn rhanbarthol i fanteisio ar y cysylltiad rhwng y Gymraeg a chyfleoedd ar gyfer datblygu economaidd yn y rhan honno o Gymru. Credaf fod yna gyfleoedd i rannu adnoddau, i ddysgu o’r ffordd y mae rhai awdurdodau lleol wedi llwyddo i gryfhau gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu ar gyfer y bobl hynny a fyddai'n dewis manteisio ar wasanaethau awdurdodau lleol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ddefnyddio’r adnoddau hynny mewn ffordd sy'n fanteisiol i ddatblygiad economaidd yn y dyfodol yn y rhan honno o'r wlad.
O ran gweithio gyda chyd-Aelodau eraill o’r Cabinet, rwyf nid yn unig wedi trafod y materion hyn gydag Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer yr economi o ran strategaeth yr economi, ond rwyf hefyd wedi siarad â fy nghyd-Aelod yr Ysgrifennydd dros addysg ynglŷn â gwella addysg ac anghenion dysgu ychwanegol. Siaradais â fy nghyd-Aelod y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â gwaith rhanbarthol yn y maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn wir, prin bod unrhyw gyd-Aelodau Cabinet nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yn y ffordd y mae gwaith rhanbarthol o'r math a nodir yn y cynigion hyn yn berthnasol i’r cyfrifoldebau y maen nhw hefyd yn eu cyflawni.
Byddwn yn parhau â’r trafodaethau hynny, yn edrych ymlaen at ddod â Bil gerbron y Cynulliad, ac yn deall yr hoffai pleidiau ar draws y Cynulliad weld manylion ein cynigion a’u hystyried yn ofalus pan gânt eu cyhoeddi.