7. 6. Datganiad: Diwygio Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 4:56, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae diwygio llywodraeth leol yn creu cyfle ac rwy'n credu y gall diwygio weithio'n dda ar yr amod mai’r prif nod yw dod â llywodraeth leol yn nes at y bobl y mae'n ei wasanaethu. Felly, mae’r elfen o leoliaeth, rwy’n credu, yn allweddol.

Nawr, rydych chi wedi tynnu sylw at swyddogaeth fwy i gynghorau tref a chymuned. Credaf fod hynny yn argoeli’n addawol mewn rhai achosion. Mewn ardaloedd gwledig a lled-wledig, gall y cynghorau hyn fod â swyddogaeth gref a pherthnasol, ac rydych chi’n sôn am y ffordd y maen nhw wedi, mewn rhai achosion, achub llyfrgelloedd lleol a gwasanaethau eraill drwy eu cymryd o dan eu hadain. Yn sicr, mae modd argymell y math hwnnw o weithredu pan fydd gwasanaethau lleol o dan fygythiad. Ond beth fyddai eich argymhelliad pan fydd gwasanaethau dan fygythiad mewn ardaloedd mwy trefol nad oes ganddyn nhw gynghorau cymuned? Beth fyddai swyddogaeth, er enghraifft, grwpiau gwirfoddol, a allai chwarae rhan berthnasol iawn, ond a fyddai unrhyw faterion yn codi o ran democratiaeth a mandad democrataidd i redeg pethau? Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed eich barn ar hynny.

Fel y dywedwch chi, mae cymysgedd o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Felly, unwaith eto, beth sy'n digwydd pan fydd y gwasanaethau lleol o dan fygythiad mewn ardal lle nad yw'r cyngor cymuned lleol yn gwneud llawer? O gofio bod cymaint o wasanaethau o dan fygythiad y dyddiau hyn, a ddylid cael rhyw fath o lawlyfr gweithredu gennych chi, fel Gweinidog, o ran sut orau i amddiffyn gwasanaethau lleol yn yr achosion hyn?

O ran eich newidiadau arfaethedig i sut y cynhelir etholiadau yng Nghymru, rwy’n edrych ymlaen at glywed eich barn ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Yn amlwg, rydych chi wedi ymrwymo i geisio sicrhau rhai newidiadau penodol megis yr oedran pleidleisio, ond rydych chi’n dal i ystyried agweddau eraill. Rwy'n credu bod llawer i'w drafod ynglŷn â’r newidiadau i reolau etholiad ac fe gawn ni yn ôl pob tebyg ddadl gadarn ar y mathau hyn o gynigion yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Ond rwy’n gobeithio y byddwch chi’n troedio'n ofalus wrth i chi ystyried materion perthnasol fel diogelwch ar y rhyngrwyd.

Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o’r Aelodau yn cytuno y dylai dyletswyddau swyddog canlyniadau etholiad fod yn rhan statudol o waith prif weithredwr y Cyngor, ac y dylai fod yn rhan o'i lwyth gwaith rheolaidd, heb unrhyw daliadau ychwanegol cysylltiedig. Felly, rwy’n tueddu i gytuno â chi ar y pwynt hwnnw, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi’n prysuro ymlaen â hynny.

Ar y mater o weithwyr y cyngor yn cael sefyll fel ymgeiswyr, rwy’n credu y dylai pobl fel menywod cinio a dynion lolipop a phobl eraill mewn swyddi tebyg gael sefyll mewn etholiadau cyngor, felly byddai newid y rheolau yma yn glodwiw, fel y mae Janet Finch-Saunders wedi ei amlygu, ac fel y gwnaethoch chi yn dda iawn drwy ei gynnwys yn rhan o'ch cynigion. Y cwestiwn yw: pa swyddogion llywodraeth leol nad ydynt yn gymwys? Tybed a allech chi ddweud wrthyf i ymhle yn union yr ydych chi’n teimlo y dylid tynnu’r llinell honno.

Ar y mater o gynghorwyr annibynnol, rwy’n credu ei fod yn bwynt teg, os ydyn nhw’n aelodau o blaid, mae gan y cyhoedd hawl i wybod. Sut ydych chi'n bwriadu cael yr wybodaeth hon a beth fydd yn digwydd i ymgeiswyr sy'n methu â datgelu aelodaeth o blaid?

Ar y mater o ACau yn gweithredu fel cynghorwyr hefyd, rwy'n credu bod hwn yn bwnc dadleuol. Gan na fûm i erioed yn gynghorydd, nid wyf i’n gymwys mewn gwirionedd i farnu ar ba un a allwch chi wneud y ddwy swydd yn llwyddiannus. Roeddech chi eich hun yn gynghorydd ar un adeg, ac yn awr rydych chi yn Aelod Cynulliad, ond erioed ar yr un pryd, hyd y gwn i. Ond rwy’n gwybod am o leiaf un Aelod yma a wnaeth y ddwy swydd am rai blynyddoedd, felly nid wyf yn credu ei bod hi’n amhosibl gwneud y ddwy. Y broblem efallai yw bod cyflog AC yn sicr yn gyflog llawn amser. Felly, os yw AC yn dymuno parhau i fod yn gynghorydd, efallai y dylid cael gwaharddiad ar hawlio’r cyflog cynghorydd gan olygu pe byddai ef neu hi yn dymuno parhau i fod yn gynghorydd, y byddai’n ymgymryd â’r dyletswyddau cyngor fel rhai di-dâl. Felly, tybed a ydych chi’n credu y gallai hyn fod yn gyfaddawd derbyniol yn yr achos hwn. Diolch.