7. 6. Datganiad: Diwygio Llywodraeth Leol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 18 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:16, 18 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n debyg bod datganiad buddiannau o ryw fath yn y fan yna, Llywydd, ac wrth gwrs, nid fy lle i yw dweud unrhyw beth wrth unrhyw un. Lle’r Cynulliad Cenedlaethol hwn fyddai penderfynu, ac os ydym ni yn penderfynu, bydd hynny oherwydd mai dyma’r fforwm democrataidd lle yr ydym ni’n gwneud y penderfyniadau hynny. Dyna fydd sail unrhyw benderfyniad sy'n deillio o’r ymarfer ymgynghori hwn.

Nid oes gennyf unrhyw bwerau dros Dŷ'r Arglwyddi, ond lle mae gennym ni bwerau newydd dros lywodraeth leol, rwy’n glir yn fy meddwl fy hun y dylai pobl sy'n cael y fraint o eistedd fel Aelodau Cynulliad allu neilltuo’u holl amser a'u hegni i’r swydd honno, ac na ddylen nhw ganfod eu hunain yn y sefyllfa o bleidleisio ar bethau sy'n digwydd yma sy'n cael effaith uniongyrchol ar gyfrifoldebau eraill y maen nhw’n eu cyflawni mewn mannau eraill.

Rwy'n cydnabod y pwynt ynghylch uniondeb y system. Dyma pam, yn rhannol, pan atebais fy nghwestiwn gan Mike Hedges ar bleidleisio electronig, imi ddweud mai dyna un o'r pethau y bydd angen i ni feddwl amdano. Mae tyndra rhwng uniondeb ar y naill law a symlrwydd ar y llall. Hoffwn i wneud pleidleisio drwy'r post yn haws ar gyfer y bobl hynny sy'n dewis pleidleisio yn y ffordd honno. Rwy'n chwilfrydig braidd ynghylch pam y byddai'r Aelod yn dymuno gwneud pleidleisio drwy'r post yn fwy anodd i bobl. Pwy yw ef, gallwn i fod wedi’i ddweud, i benderfynu sut y mae pobl yn dewis arfer eu pleidlais? Felly, rwy’n credu y dylem ni sicrhau bod modd i bobl pleidleisio drwy'r post. Rwy'n credu y dylem ni geisio gwneud y broses yn symlach yn y modd y disgrifiodd Janet Finch-Saunders, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni fod yn ofalus gyda’r elfen o uniondeb, hefyd.

Rwy’n eithaf gwrthwynebus i gardiau adnabod neu fathau eraill o ddulliau adnabod mewn gorsafoedd pleidleisio. Rydym ni’n gwybod os awn ni ar hyd y trywydd hwnnw, y caiff hynny effaith anghymesur ar rai cymunedau ac ar garfanau penodol o'r pleidleiswyr, gan gynyddu’r ffordd y mae rhai pobl ar hyn o bryd yn teimlo eu bod nhw wedi eu dieithrio. Pan geir camddefnyddio, rwy’n credu bod ein system yn ddigon cadarn i’w ganfod. Mae angen i ni fod yn effro i hynny, ond yn y tyndra rhwng eisiau gwneud yn siŵr bod pleidleisio mor hwylus a chyfleus ag y bo modd, ac uniondeb y system, rwy’n credu y dylem ni fod yn barod i fod yn fwy pryderus am sicrhau nad oes neb yn colli eu cyfle i bleidleisio, gan barhau i fod yn wyliadwrus er mwyn sicrhau bod y system yn parhau i fod yn hollol ddidwyll.