Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 18 Gorffennaf 2017.
Dim ond rhai sylwadau, mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod problem gyda phleidleisio drwy'r post, yn enwedig ar gyfer pobl anabl a phobl hŷn nad yw eu llofnod bob amser yn cyfateb, ac maen nhw wedi canfod bod eu pleidleisiau wedi eu diystyrru mewn etholiadau diweddar. Rwy’n credu, os ydym ni i gyd yn onest yn y fan yma, hefyd, fe wyddom ni i gyd fod yna broblem gyda phleidleisio drwy'r post a didwylledd y broses. Mae gen i bryderon ynglŷn ag annog mwy o bleidleisio drwy'r post, gan fy mod i’n credu y dylai pleidleisio drwy'r post gael ei gyfyngu. Dylai fod rheswm pam y mae gennych bleidlais drwy’r post, oherwydd caiff y broses ei chamddefnyddio, ac rydym ni i gyd yn gwybod hynny.
Mae angen i ni annog pobl i bleidleisio, ac rwy'n credu bod y syniad o archfarchnadoedd a mannau eraill cyffelyb yn syniad gwirioneddol dda. Unwaith eto, yn ôl at uniondeb y broses, roedd enghraifft yn 2016 yn etholiad y Cynulliad yn etholaeth Gorllewin Caerdydd, pryd yr aeth rhywun i bleidleisio am 08:30, ac fe ddywedwyd wrtho ei fod eisoes wedi pleidleisio. Rhoddodd yr unigolyn ddisgrifiad i'r person o’r sawl a oedd wedi bod yno am 07:30 ac wedi pleidleisio yn ei enw ef. Nawr, rwy’n sicr yn credu bod dadl dros, efallai, brofi hunaniaeth wrth bleidleisio, oherwydd fe ddywedwn i fod y broses ar y funud yn llawer rhy hawdd ei chamddefnyddio, i ddefnyddio'r un ymadrodd eto.
Fe hoffwn i weld refferenda lleol yn cael grym gwirioneddol. Unwaith eto, cawsom refferendwm lleol yn lle rwyf i'n byw, pryd y pleidleisiodd 99.9 y cant o bobl yn mewn ffordd arbennig, ac fe gawson nhw eu hanwybyddu, ac fe bleidleisiodd miloedd o bobl hefyd.
Mae'n rhaid i mi gyffwrdd ar y mandad deuol. Rwy'n cymryd yn ganiataol ei fod yn berthnasol i Dŷ'r Arglwyddi hefyd. Efallai y gallwch chi egluro hynny.[Torri ar draws.] Ni fyddai gen i, yn sicr, ond mae gan rai cyd-Aelodau yma fandad deuol yn hynny o beth. Yn anad dim, mae'n fater o egwyddor ddemocrataidd. Cefais fy ethol yn gynghorydd, a’m hail-ethol yn ddiweddar. Roedd pawb yn gwybod fy mod yn Aelod Cynulliad. Beth sy’n rhoi'r hawl i chi fel unigolyn, fel Gweinidog, i ddweud wrth bobl na chânt bleidleisio drosof i neu dros unrhyw un arall i fod yn gynghorydd iddyn nhw? O ran y lwfansau, ydw, rwy’n hapus i roi fy lwfansau, 50 y cant i'r gymuned a 50 y cant i Blaid Cymru. Ond mater o ddemocratiaeth yw hwn. Pwy ydych chi, Weinidog, neu Ysgrifennydd y Cabinet, i ddweud wrth bobl nad oes ganddyn nhw’r hawl i bleidleisio dros bobl? Nid yw hynny’n iawn.