Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am gadarnhau fy mod wedi rhoi munud yr un o fy amser i Simon Thomas, Jenny Rathbone a Joyce Watson.
Yr wythnos hon yw Wythnos Gamble Aware. Mae’n saith diwrnod pan fo siopau betio ar draws y wlad yn lledaenu’r neges i beidio â betio mwy nag y gallwch fforddio ei golli, ond mae arnaf ofn nad yw eu neges yn cyrraedd y nod. Diolch i benderfyniadau polisi cyhoeddus gwael gan Lywodraethau olynol o bob lliw, nid yw gamblo erioed wedi bod yn haws nag y mae heddiw. Nid oes angen i chi fentro i mewn i siop fetio leol i roi bet bellach, gallwch fetio ar y ffôn, drwy gyfrifiadur, ffôn symudol neu hyd yn oed ar eich teledu clyfar. A chyda bron i 400 o siopau betio a thua 1,500 o beiriannau betio ods sefydlog yng Nghymru, mae’n hawdd gweld sut y gall pobl gael eu sugno i mewn yn gyflym i drobwll o gamblo sy’n mynd allan o reolaeth.
Nid yw gamblo’n ddim byd newydd wrth gwrs. Mae wedi bodoli ers amser hir iawn. Ond mae gamblo gormodol ar gynnydd, ac mae’n ymddangos bod gan Gymru fwy o broblem gyda gamblo na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yn wir, mae’r ffigurau’n llwm. Mae arolygon y Comisiwn Hapchwarae wedi amcangyfrif bod tua 1.1 y cant o boblogaeth Cymru yn gamblwyr cymhellol, tua 34,000 o bobl, gyda 118,000 arall mewn perygl o ddatblygu’n gamblwyr cymhellol. Rydych fwy na dwywaith mor debygol o fod yn gamblwr cymhellol os ydych yn byw yng Nghymru nag yn Lloegr, ac un rhan o dair yn fwy tebygol na phe baech yn byw yn yr Alban.
Amcangyfrifir bod mwy na £1.6 biliwn yn cael ei gamblo’n flynyddol ar beiriannau betio ods sefydlog yn unig, ac mae hynny’n fwy na chyfartaledd o £1 filiwn y peiriant yma yng Nghymru, oddeutu £675 y pen o boblogaeth Cymru sy’n oedolion. Mae’n ddigon i dynnu dŵr i’r llygad. Ac wrth gwrs, mae’r peiriannau hyn mor gyflym fel ei bod yn gwbl bosibl betio tua £100 bob 20 eiliad. Mae ymchwil wedi dangos, mewn gwirionedd, ei fod yr un mor gaethiwus â chyffur dosbarth A, ac nid yw’n syndod eu bod wedi cael eu galw’n grac cocên y byd gamblo.
Ond yr hyn sy’n fwy o bryder byth yw bod yna gorff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos bod busnesau diegwyddor yn lleoli’r peiriannau hyn mewn ardaloedd difreintiedig. Mae mwy na thraean y siopau betio sydd â’r peiriannau hyn yn y cymunedau tlotaf ledled Cymru. Y rhain yw’r ardaloedd lle y ceir tanfuddsoddi a lefelau uchel o ddiweithdra, ac mae gwneud bet gyflym ac ennill llawer o arian, ni waeth beth yw’r ods, i’w weld yn gynnig deniadol. Ond y bobl sy’n gosod y betiau hyn yn aml iawn yw’r rhai na allant fforddio’u colli. Ond fe wyddom nad yw gamblo yn ffordd allan o dlodi. Yn wir, mae’n ffordd tuag at chwalfa—chwalfa perthynas, chwalfa iechyd a chwalfa ariannol. Diolch i’n hoes ddigidol, hyd yn oed ar ôl i’r siopau betio gau ac wedi i’r casinos gau, gall gamblwyr barhau i’w mentro hi ar-lein. Mae gamblo ar-lein yn ynysu ac yn cuddio dibyniaeth ar gamblo, ond mae hefyd ar gynnydd. Mae mwy a mwy o bobl yn gamblo tu ôl i ddrysau caeedig ac yn y dirgel. Gamblo yw hwn sy’n digwydd o’n cwmpas yn gyson. Gellir chwarae slotiau mewn cyfarfodydd, gellir eu chwarae ym maes parcio’r ysgol wrth aros i godi’r plant o’r ysgol, a gellir eu chwarae yn y toriad rhwng sifftiau hyd yn oed. Mae’n ei gwneud yn anos gwybod pa bobl sydd angen cymorth ac i eraill allu estyn allan atynt cyn iddo droi’n argyfwng.
Mae rhai, wrth gwrs, yn gamblwyr dan oed. Deallwn gan y Comisiwn Hapchwarae mai’r bobl sy’n wynebu fwyaf o berygl o fod yn gamblwyr cymhellol yw rhai rhwng 16 a 24 oed. Mae pobl gyda’u hoes gyfan o’u blaenau mewn perygl o golli popeth. Mae adroddiad ‘Young People and Gambling 2016’ y Comisiwn Hapchwarae yn awgrymu bod cannoedd o gamblwyr cymhellol sy’n blant yma yng Nghymru, ac os cyfunwch hynny â’r ffaith fod 65 y cant o bobl ifanc dan 18 oed eisoes wedi cyfaddef eu bod yn gaeth i’w ffonau symudol, rwy’n meddwl ei bod yn glir iawn fod yna argyfwng iechyd cyhoeddus go iawn ar droed ac yn digwydd yn awr ym mhocedi pobl ifanc.
Yn aml, caiff yr arian a ddefnyddir i gamblo ei dynnu allan ar gredyd. Mae llawer o bobl sy’n gaeth i gamblo yn cael eu dal mewn sefyllfa amhosibl o ddyledion sy’n gwaethygu y byddant wedyn yn ceisio’u had-dalu drwy gamblo mwy. Caiff cynilion oes eu colli, a therfynau cardiau credyd eu croesi. Nid yw gamblo’n parchu neb. Gall effeithio ar bobl ar unrhyw haen gymdeithasol ac o bob cefndir, ond peidiwch â chymryd fy ngair i am y peth. Rwyf am inni roi ychydig funudau i edrych ar y sgriniau a gwrando ar rai o brofiadau Sarah a Joseph yma yng Nghymru.