– Senedd Cymru am 5:32 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar—[Torri ar draws.] Fe arhoswn am funud. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel. Diolch.
Iawn, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Darren Millar i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Darren.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf am gadarnhau fy mod wedi rhoi munud yr un o fy amser i Simon Thomas, Jenny Rathbone a Joyce Watson.
Yr wythnos hon yw Wythnos Gamble Aware. Mae’n saith diwrnod pan fo siopau betio ar draws y wlad yn lledaenu’r neges i beidio â betio mwy nag y gallwch fforddio ei golli, ond mae arnaf ofn nad yw eu neges yn cyrraedd y nod. Diolch i benderfyniadau polisi cyhoeddus gwael gan Lywodraethau olynol o bob lliw, nid yw gamblo erioed wedi bod yn haws nag y mae heddiw. Nid oes angen i chi fentro i mewn i siop fetio leol i roi bet bellach, gallwch fetio ar y ffôn, drwy gyfrifiadur, ffôn symudol neu hyd yn oed ar eich teledu clyfar. A chyda bron i 400 o siopau betio a thua 1,500 o beiriannau betio ods sefydlog yng Nghymru, mae’n hawdd gweld sut y gall pobl gael eu sugno i mewn yn gyflym i drobwll o gamblo sy’n mynd allan o reolaeth.
Nid yw gamblo’n ddim byd newydd wrth gwrs. Mae wedi bodoli ers amser hir iawn. Ond mae gamblo gormodol ar gynnydd, ac mae’n ymddangos bod gan Gymru fwy o broblem gyda gamblo na rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Yn wir, mae’r ffigurau’n llwm. Mae arolygon y Comisiwn Hapchwarae wedi amcangyfrif bod tua 1.1 y cant o boblogaeth Cymru yn gamblwyr cymhellol, tua 34,000 o bobl, gyda 118,000 arall mewn perygl o ddatblygu’n gamblwyr cymhellol. Rydych fwy na dwywaith mor debygol o fod yn gamblwr cymhellol os ydych yn byw yng Nghymru nag yn Lloegr, ac un rhan o dair yn fwy tebygol na phe baech yn byw yn yr Alban.
Amcangyfrifir bod mwy na £1.6 biliwn yn cael ei gamblo’n flynyddol ar beiriannau betio ods sefydlog yn unig, ac mae hynny’n fwy na chyfartaledd o £1 filiwn y peiriant yma yng Nghymru, oddeutu £675 y pen o boblogaeth Cymru sy’n oedolion. Mae’n ddigon i dynnu dŵr i’r llygad. Ac wrth gwrs, mae’r peiriannau hyn mor gyflym fel ei bod yn gwbl bosibl betio tua £100 bob 20 eiliad. Mae ymchwil wedi dangos, mewn gwirionedd, ei fod yr un mor gaethiwus â chyffur dosbarth A, ac nid yw’n syndod eu bod wedi cael eu galw’n grac cocên y byd gamblo.
Ond yr hyn sy’n fwy o bryder byth yw bod yna gorff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos bod busnesau diegwyddor yn lleoli’r peiriannau hyn mewn ardaloedd difreintiedig. Mae mwy na thraean y siopau betio sydd â’r peiriannau hyn yn y cymunedau tlotaf ledled Cymru. Y rhain yw’r ardaloedd lle y ceir tanfuddsoddi a lefelau uchel o ddiweithdra, ac mae gwneud bet gyflym ac ennill llawer o arian, ni waeth beth yw’r ods, i’w weld yn gynnig deniadol. Ond y bobl sy’n gosod y betiau hyn yn aml iawn yw’r rhai na allant fforddio’u colli. Ond fe wyddom nad yw gamblo yn ffordd allan o dlodi. Yn wir, mae’n ffordd tuag at chwalfa—chwalfa perthynas, chwalfa iechyd a chwalfa ariannol. Diolch i’n hoes ddigidol, hyd yn oed ar ôl i’r siopau betio gau ac wedi i’r casinos gau, gall gamblwyr barhau i’w mentro hi ar-lein. Mae gamblo ar-lein yn ynysu ac yn cuddio dibyniaeth ar gamblo, ond mae hefyd ar gynnydd. Mae mwy a mwy o bobl yn gamblo tu ôl i ddrysau caeedig ac yn y dirgel. Gamblo yw hwn sy’n digwydd o’n cwmpas yn gyson. Gellir chwarae slotiau mewn cyfarfodydd, gellir eu chwarae ym maes parcio’r ysgol wrth aros i godi’r plant o’r ysgol, a gellir eu chwarae yn y toriad rhwng sifftiau hyd yn oed. Mae’n ei gwneud yn anos gwybod pa bobl sydd angen cymorth ac i eraill allu estyn allan atynt cyn iddo droi’n argyfwng.
Mae rhai, wrth gwrs, yn gamblwyr dan oed. Deallwn gan y Comisiwn Hapchwarae mai’r bobl sy’n wynebu fwyaf o berygl o fod yn gamblwyr cymhellol yw rhai rhwng 16 a 24 oed. Mae pobl gyda’u hoes gyfan o’u blaenau mewn perygl o golli popeth. Mae adroddiad ‘Young People and Gambling 2016’ y Comisiwn Hapchwarae yn awgrymu bod cannoedd o gamblwyr cymhellol sy’n blant yma yng Nghymru, ac os cyfunwch hynny â’r ffaith fod 65 y cant o bobl ifanc dan 18 oed eisoes wedi cyfaddef eu bod yn gaeth i’w ffonau symudol, rwy’n meddwl ei bod yn glir iawn fod yna argyfwng iechyd cyhoeddus go iawn ar droed ac yn digwydd yn awr ym mhocedi pobl ifanc.
Yn aml, caiff yr arian a ddefnyddir i gamblo ei dynnu allan ar gredyd. Mae llawer o bobl sy’n gaeth i gamblo yn cael eu dal mewn sefyllfa amhosibl o ddyledion sy’n gwaethygu y byddant wedyn yn ceisio’u had-dalu drwy gamblo mwy. Caiff cynilion oes eu colli, a therfynau cardiau credyd eu croesi. Nid yw gamblo’n parchu neb. Gall effeithio ar bobl ar unrhyw haen gymdeithasol ac o bob cefndir, ond peidiwch â chymryd fy ngair i am y peth. Rwyf am inni roi ychydig funudau i edrych ar y sgriniau a gwrando ar rai o brofiadau Sarah a Joseph yma yng Nghymru.
Sarah: ‘Rwy’n teimlo’n wirion weithiau, oherwydd fe fyddwn yn mynd a gamblo fy arian, ac rydych bob amser yn meddwl, "O, fe gamblaf £10, £20, dyna i gyd", a’r peth nesaf, rwyf wedi gamblo fy nghyflog mis yn gyfan, ac yna rydych yn mynd i banig ac yn meddwl, "Sut ydw i’n mynd i fforddio bwyd? Sut ydw i’n mynd i wneud unrhyw beth?" Roedd yn rhaid i mi geisio gofyn i bobl am help, fel fy rhieni, ac yna byddent yn gofyn, "Wel, ble mae dy arian?", felly wedyn byddai’n rhaid i chi ddechrau dweud, wn i ddim, "Rwyf wedi’i golli" neu "Ni chefais fy nhalu ar amser".’
Joseph Nolloth: ‘Collais bopeth. Collais fy fflat. Collais bopeth. Roedd arnaf ddyledion di-rif. Cefais fenthyciadau diwrnod cyflog. Gwerthais fy holl eiddo—fy mhethau personol. Hynny yw, roeddwn hyd yn oed yn gwerthu bagiau o ddillad—hen ddillad—i siopau a dalai arian parod am ddillad ac yn y blaen, i gael rhywfaint o arian dyna i gyd, i brynu bwyd. Hyd yn oed gyda’r arian sbâr a oedd dros ben gennyf, byddwn yn ei gamblo i geisio ennill mwy o arian.’
‘Wrth edrych yn ôl ar eich bywyd, beth ydych chi wedi’i golli?’
Joseph Nolloth: ‘O leiaf £50,000, a dim ond 24 oed ydw i. Pe bai gennyf £1 filiwn, mae’n debyg y byddwn wedi gwario’r £1 filiwn ar gamblo.’
‘Yn ôl y rheoleiddiwr, y Comisiwn Hapchwarae, mae Joseph yn perthyn i’r union grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o fod â phroblem gamblo. Bydd mwy o ddynion â phroblem na menywod, ond nid ydym yn gwybod faint o broblem yw hi yma yng Nghymru, gan na cheir ystadegau swyddogol.’
Felly, gallwch weld. Rydym wedi clywed gan Sarah a Joseff. Nid gêm yw gamblo, mae’n broblem real iawn. Maent yn talu pris uchel amdano, ac nid hwy yw’r unig rai. Efallai eich bod wedi clywed am weithiwr post yng Nghaerdydd, Colin Chapman, a gafodd ei arestio yr wythnos diwethaf am ddwyn parseli gwerth £40,000 er mwyn ariannu ei ddibyniaeth ar gamblo. Neu efallai y byddwch yn cofio Willie Thorne hyd yn oed, cyn-bencampwr snwcer y DU a aeth yn fethdalwr ar ôl gamblo dros £1 filiwn, ond wrth gwrs, nid arian yn unig sy’n cael ei golli. Mae pobl yn colli eu cartrefi, maent yn colli eu priodasau, maent yn colli eu hiechyd oherwydd straen, ac maent yn colli eu lle a’u pwrpas mewn cymdeithas. Ac yn anffodus, mae rhai hyd yn oed wedi colli eu bywydau.
Ar 31 Mawrth y llynedd, gwisgodd Omair Abbas 18 oed o Gaerdydd ei iwnifform gwaith a dywedodd hwyl fawr wrth ei rieni a gadael cartref, ond yn anffodus, nid oedd yn ddiwrnod fel pob un arall. Lai na phythefnos yn ddiweddarach, cafodd ei ddarganfod yn farw. Roedd wedi cyflawni hunanladdiad ar ôl brwydro â gwerth miloedd o bunnoedd o ddyled. Roedd wedi mynd drwy ei orddrafft, roedd wedi tynnu credyd allan ar ei gardiau credyd, ac er iddo ymddiried yn ei ffrindiau agos ei fod yn dioddef o iselder ac wedi ystyried lladd ei hun o bryd i’w gilydd, yn anffodus nid oeddent yn gallu ei atal rhag digwydd. Rwy’n credu y dylai ei stori, ei farwolaeth, fod yn agoriad llygad i bawb ohonom.
Mae gamblo gormodol yn caethiwo pobl mewn cylch caethiwus o golli ac ennill a cholli a cholli a cholli. Fel y clywsom, gall arwain at broblemau iechyd emosiynol, ariannol a meddyliol hynod o anodd. Ond mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gaeth i gamblo’n brwydro mewn tawelwch. Ni fydd llawer o’r bobl sy’n cael trafferth gyda gamblo yn gofyn am help hyd nes eu bod yn cyrraedd pwynt o argyfwng, ac mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu mai dim ond un o bob 10 o bobl sydd â phroblemau gamblo sy’n gofyn am gymorth ffurfiol mewn gwirionedd. Ond yn anffodus, yn rhy aml nid yw’r cymorth sydd ei angen arnynt ar gael iddynt bob amser.
Nawr, diolch i’r drefn, mae pobl yn dechrau deffro i’r bom amser iechyd y cyhoedd hwn, ac roeddwn yn falch iawn o glywed, gan y prif swyddog meddygol yng nghynhadledd ddiweddar Curo’r Bwci, ei fod wedi bod yn gwneud gwaith ar y pwnc hwn. Rydym hefyd yn clywed, wrth gwrs, am waith rhagorol y Stafell Fyw yma yng Nghaerdydd, a CAIS yng ngogledd Cymru, sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth o gamblo cymhellol a helpu i ddatblygu gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n gaeth i gamblo, ac mae’n dechrau bod o fudd mawr yn awr, rwy’n meddwl. Y Stafell Fyw a CAIS, wrth gwrs, sy’n trefnu cynhadledd flynyddol Curo’r Bwci—cynhadledd Gamblo Gormodol Cymru, a gynhelir yma yng Nghaerdydd, yn y Pierhead, ac mae wedi bod yn amhrisiadwy yn dod ag academyddion, llunwyr polisi, arbenigwyr iechyd cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau at ei gilydd i archwilio’r heriau y mae’r broblem yn eu creu ac i weithio tuag at atebion. Mae wedi helpu dwsinau o bobl sy’n gaeth i gamblo hyd yn hyn, ac mae wedi arloesi a datblygu rhaglenni newydd sydd wedi helpu pobl sy’n gaeth i gamblo i newid eu bywydau. Wrth gwrs, rhaid i mi beidio ag anghofio cydnabod y gwaith rhagorol a wnaed gan Carolyn Harris a’r grŵp seneddol hollbleidiol ar gamblo hefyd.
Ymwybyddiaeth Gamblo, GamCare, Curo’r Bwci, y Stafell Fyw, CAIS—maent i gyd yn gwneud eu rhan, ond mae’n dal i fod llawer iawn o waith i’w wneud. Felly, beth y gallwn ni ei wneud? Wel, mae angen inni gyfyngu ar hysbysebu gamblo. Nid yw’n iawn fod yna hysbyseb yn eich annog i gamblo’n ymddangos bob tro y byddwch yn rhoi eich teledu ymlaen. Mae angen i ni newid y system gynllunio yma yng Nghymru er mwyn atal y cynnydd yn nifer y siopau betio yn ein cymunedau ac i atal rhagor o beiriannau betio ods sefydlog rhag ymddangos yn ein cymunedau. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o risgiau gamblo cymhellol i iechyd y cyhoedd a buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau gwella fel y rhai a ddarperir gan Curo’r Bwci, ac mae angen i ni weithredu ar unwaith ac ar frys i ostwng uchafswm y bet ar beiriannau betio ods sefydlog a lleihau’r nifer ohonynt ar draws y wlad. Nawr, rwy’n cydnabod mai yn San Steffan y mae rhai o’r pwerau i wneud a chyflwyno’r pethau hynny, ond nid yw hynny’n ein hatal rhag gwneud ein rhan gyda’r pwerau sydd gennym eisoes, megis newid y system gynllunio a datblygu gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bawb.
Mae gormod yn y fantol i anwybyddu’r broblem hon rhagor. Mae gamblo’n dinistrio bywydau. Gall effeithio ar unrhyw un yn unrhyw le ar unrhyw adeg, ac mae ein pobl ifanc yn arbennig o agored i niwed. Felly, yn hytrach na darllen am argyfyngau sydd wedi digwydd, rwy’n meddwl bod angen i bawb ohonom weithio’n galetach i’w hatal rhag dod yn eitem newyddion yn y lle cyntaf. Er mwyn Omair, Sarah, Joseph a miloedd o bobl eraill yng Nghymru sy’n dioddef o ddibyniaeth ar gamblo, mae’n ddyletswydd arnom i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon, ac mae’n rhaid i ni weithredu yn awr.
Diolch i Darren Millar am gyflwyno’r ddadl hon heddiw. Ni fyddem yn goddef hyrwyddo sylweddau caethiwus fel alcohol a thybaco mewn cymdeithas fodern yn y ffordd yr ydym wedi goddef gamblo, oherwydd diffyg rheoleiddio, a rhaid inni drin gamblo fel difyrrwch caethiwus yn yr ystyr hwnnw. Nid ydym yn sôn am wahardd, rydym yn sôn am reoleiddio ac rydym yn sôn am ddull go iawn o weithredu. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Llywodraeth—os nad heddiw, yn fuan iawn—sut y byddant yn defnyddio’r pwerau cyfyngedig a gânt dros beiriannau hapchwarae ods sefydlog i geisio ymdrin â hyn a gosod y naws gywir. Oherwydd un peth y gallwn ei wneud yma yw gosod naws y ddadl a’r naws a’r ymagwedd tuag at gamblo, yn hytrach na’r modd yr ydym yn awr yn derbyn bod gamblo rywsut yn y gymdeithas fodern yn beth arferol i’w wneud ac yn rhywbeth sy’n cael ei wobrwyo’n benodol gydag elfen o hudoliaeth yn ei gylch, sy’n destun pryder arbennig yn fy marn i. Nid oes gennym ffigurau ar gyfer Cymru, ond mae’r Stafell Fyw yng Nghaerdydd yn amcangyfrif bod 114,000 o bobl mewn perygl yng Nghymru, a cheir 12,000 o gamblwyr gormodol, rhai sydd ag anhwylder gamblo go iawn. Mae hon yn broblem feddygol a chymdeithasol ddifrifol a gobeithiaf y gallwn fynd i’r afael â hi.
Yn olaf, os caf ddweud, hoffwn ddiolch i Wynford Ellis Owen am ei waith. Mae’n ymddeol yr wythnos hon.
I thank him very much for his work in this area.
Hoffwn dalu teyrnged i Wynford Ellis Owen, y bu bron i’w fywyd gael ei ddryllio’n llwyr gan gyffuriau presgripsiwn ac alcohol. Defnyddiodd y ddealltwriaeth sydd ganddo ynglŷn â’r hyn yw dibyniaeth, a’r eithafion y bydd pobl yn barod i fynd iddynt, i hyrwyddo’r achos dros yr angen i fynd i’r afael â dibyniaeth ar gamblo. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ymateb i’r gwaith a wnaed gan Wynford Ellis Owen ac eraill drwy sicrhau ein bod yn trechu dibyniaeth, sy’n dinistrio bywydau pobl yn llwyr. Rwyf wedi cyfarfod ag etholwyr sydd wedi gamblo elw dau dŷ a busnes preifat, nad ydynt yn meiddio mynd ar y bws i’r dref hyd yn oed oherwydd eu bod yn gwybod y byddant yn galw heibio i un o’r peiriannau betio ods sefydlog hyn.
Rwy’n credu bod yn rhaid i ni newid y deddfau cynllunio fel bod y rhagdybiaeth lle y ceir cais am fusnes betio arall eto—y bydd y rhagdybiaeth ar wrthod, oni bai ein bod yn gallu profi, neu eu bod hwy’n gallu profi, na fydd yn gwneud unrhyw niwed. Dyna yw’r peth mawr rwy’n gofyn i’r Gweinidog ei wneud heddiw.
Hoffwn ddiolch i Darren am roi amser i mi siarad yn y ddadl wirioneddol bwysig hon. Y mater gamblo rwyf am ganolbwyntio arno yw gemau pêl-droed. Rwy’n gefnogwr pêl-droed enfawr ac rwyf wedi sylwi’n ddiweddar na allaf wylio gêm bêl-droed heb gael fy mombardio ar y teledu yn fy ystafell fyw i fetio ar y canlyniad nesaf—a oes rhywun yn mynd i sgorio gôl, ai gyda’r droed dde neu’r droed chwith, nid yw o wir bwys. Y pwynt yw ei fod wedi’i anelu’n gyfan gwbl at y grŵp oedran rydych newydd ei nodi fel y rhai sy’n wynebu’r broblem waethaf, neu’r broblem fwyaf sylweddol, gyda gamblo. Mae’n oresgynnol, a phan fyddwn yn edrych ar atal gamblo, credaf fod angen inni edrych hefyd ar ei atal rhag digwydd ar ein sgriniau teledu pan fyddwn yn ceisio hyrwyddo ffordd iach o fyw mewn gwirionedd—hynny yw, cymryd rhan mewn chwaraeon—ac mae’n cael ei ddifetha’n llwyr drwy gynnig dibyniaeth amgen y bydd pobl yn ei chael hi bron yn amhosibl dod allan ohoni.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl hon. Rebecca Evans.
Hoffwn ddiolch i Darren Millar am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau gwerthfawr. Rwy’n falch o weld bod cefnogaeth drawsbleidiol i fynd i’r afael â phroblem gamblo cymhellol yng Nghymru. Er ein bod yn gwybod bod llawer o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hapchwarae heb unrhyw broblemau amlwg, rydym hefyd yn gwybod bod gamblo, i rai pobl, yn tyfu’n ddibyniaeth sy’n arwain at effeithiau niweidiol ar iechyd ac yn gymdeithasol. Rwy’n credu bod Darren wedi rhannu straeon pwerus iawn gyda ni heddiw—hanesion Sarah, Joseph, Omair ac eraill.
Er bod nifer yr achosion o gamblo cymhellol yn isel, mae’r effaith ar iechyd ac yn gymdeithasol yn sylweddol, ac mae’n effeithio’n anghymesur ar bobl mwy difreintiedig, sydd bum gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu problem gamblo cymhellol. Mae effaith gamblo ar unigolion yn cynnwys yr anallu i weithredu yn y gwaith, a phroblemau ariannol a all arwain at ddigartrefedd. Mae’r niwed yn sgil gamblo i’r gymdeithas ehangach yn cynnwys twyll, lladrata, colli cynhyrchiant yn y gweithlu a’r gost o drin y ddibyniaeth hon.
Amcangyfrifir y bydd chwech i 13 o bobl eraill yn cael eu heffeithio am bob person sydd â phroblem gamblo a gall hyn gynnwys aelodau o’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Gallaf eich sicrhau ein bod, fel Llywodraeth, yn gweithio ar draws portffolios i nodi’r camau y gallwn eu cymryd i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a chyfyngu ar ei effaith ar iechyd pobl yng Nghymru ac ar y gymdeithas ehangach.
Er nad yw rheoleiddio a thrwyddedu hapchwarae wedi’u datganoli i Gymru, mae Deddf Cymru yn darparu pwerau newydd i Weinidogion Cymru a’r Cynulliad mewn perthynas â pheiriannau betio ods sefydlog, a byddwn yn edrych ar hyn ymhellach o fis Ebrill 2018 pan fydd disgwyl i ddarpariaethau llawn y Ddeddf gychwyn.
Mae polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnal a gwella ffyniant—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rydym yn gwybod bod y cyfrifoldeb hwn yn dod i’r Cynulliad o’r flwyddyn nesaf ymlaen. Rwy’n gobeithio na fydd y Llywodraeth yn aros i wneud peth o’r gwaith paratoi y gallai fod ei angen i roi’r mesurau diogelu ar waith pan ymddengys bod consensws o amgylch y Siambr hon. Fel y dywedais, rydym yn gwybod beth yw hyd a lled y cyfrifoldebau y byddwn yn eu hetifeddu fis Ebrill y flwyddyn nesaf, felly a allwch gadarnhau bod y Llywodraeth yn ymgymryd â’r gwaith paratoi hwnnw er mwyn i chi allu dechrau arni ar unwaith pan fyddwch yn cael y cyfrifoldebau hynny?
Rwy’n credu bod fy natganiad wedi’i eirio’n wael yn y fan honno yn ôl pob tebyg, oherwydd rwy’n eich sicrhau bod y Llywodraeth yn edrych ar draws ein holl bortffolios o ran yr hyn y gallwn fod yn ei wneud, fel y dywedais, i atal pobl rhag mynd yn gaeth i gamblo yn y lle cyntaf, ac yna i leihau’r effaith y gallai ei chael.
Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi cynllunio sy’n ceisio cynnal a gwella ffyniant, hyfywedd ac atyniad ein canolfannau manwerthol a masnachol sefydledig, ac mae effeithiau gamblo cymhellol ar iechyd neu drosedd ac anhrefn yn ystyriaethau perthnasol ar lefel awdurdod cynllunio lleol, lle y gallant ystyried y materion hyn wrth benderfynu ar gais cynllunio.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig eisoes wedi dweud ei bod yn adolygu’r datblygu a ganiateir a roddir drwy ddosbarthiadau defnydd, a bydd yn ymgynghori ar y newidiadau arfaethedig yn ddiweddarach eleni, ac mae’r adolygiad hwnnw yn ystyried a oes angen newidiadau i atal gorgrynhoad o siopau betio. Fel eraill, rwy’n edrych ymlaen at gael canlyniad yr adolygiad hwnnw.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi comisiynu ymchwil i fapio’r holl leoliadau gamblo ledled Cymru a bydd y gwaith hwn yn cynnwys map gwres gweledol sy’n dangos dwysedd lleoliadau gamblo yn ddaearyddol. Bydd hynny’n ein galluogi i dynnu sylw at yr ardaloedd lle y ceir crynhoad o leoliadau gamblo a bydd yn ein cynorthwyo i ystyried a thrafod y mater hwn.
Yn gyffredinol, nid oes unrhyw ymyrraeth feddygol ar gyfer gamblo, ond mewn rhai achosion gall ymyriadau seicolegol helpu i gynorthwyo unigolion i newid eu hymddygiad. Yn ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ rydym wedi cytuno ar gynllun gyda’r GIG i ehangu gwasanaethau therapi seicolegol ar gyfer oedolion a phlant, ac rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol y flwyddyn i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun hwn.
Er y gall cleifion drafod unrhyw beth gyda’u meddyg teulu, i’r rhai yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth gamblo patholegol neu gymhellol, ceir gwasanaethau megis Gamblers Anonymous neu GamCare hefyd, a all roi gwybodaeth a chymorth, ac rydym wedi clywed gan Aelodau ynglŷn â gwaith arall, megis y Stafell Fyw, CAIS, Curo’r Bwci ac yn y blaen.
Mae sefydliadau eraill yn rhoi gwybodaeth a chyngor hefyd, gan gynnwys y canolfannau cyngor ar bopeth. Mae’r ganolfan yng Nghasnewydd yn cyflawni peth gwaith ar gymorth ar gyfer niwed sy’n gysylltiedig â gamblo. Mae’n cael ei ariannu gan Gamble Aware, ac maent yn cyflwyno prosiectau i leihau niwed gamblo yng Nghymru, gyda’r nod o fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig â gamblo yn y gwraidd drwy addysg ac ymwybyddiaeth, gan weithio’n arbennig gyda phobl ifanc a grwpiau eraill sy’n agored i niwed.
Mae gamblo ar-lein yn peri pryder arbennig. Mae gamblo bellach yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen, fel y clywsom—mynediad 24 awr ar gael yn y cartref, yn y gwaith, tra’n codi’r plant o’r ysgol, a hyd yn oed tra’n cymudo ar eich ffonau symudol. Mae gamblo ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol rhwng 2008 a 2014, o 9.7 y cant o’r boblogaeth i 15.4 y cant o’r boblogaeth. Dyma un o’r rhesymau pam y mae ein prif swyddog meddygol yn glir iawn y dylem fod yn edrych ar gamblo, neu gamblo cymhellol, fel problem iechyd cyhoeddus sy’n datblygu.
Mae angen i ni fanteisio ar y cyfleoedd newydd ar gyfer gweithredu a ddarperir gan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Bydd hon yn helpu i ymgorffori iechyd a llesiant yn yr holl bolisïau a rhaglenni, a byddwn yn ymgynghori ar yr amgylchiadau pan ddylai cyrff cyhoeddus gyflawni asesiadau o’r effaith ar iechyd. Croesewir sylwadau ar sut y gall yr asesiadau hyn fynd i’r afael â’r holl ystod eang o faterion, ond gan gynnwys gamblo cymhellol hefyd.
Wrth gynnal asesiadau o’r fath, mae’n rhaid i ni gydnabod hefyd fod y diwydiant gamblo yn cynnig cyfleoedd gwaith a hamdden, ynghyd â manteision cymdeithasol ac economaidd eraill. Yn 2015, roedd 3,500 o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiant gamblo a betio yng Nghymru, tua 0.3 y cant o gyfanswm cyflogaeth.
Felly, rwy’n awyddus i ni gael dadansoddiad trylwyr o’r mater hwn, ac rwy’n falch iawn fod y prif swyddog meddygol yn arwain y gwaith ar y niwed a achosir gan gamblo fel rhan o’r broses o ddatblygu ei adroddiad blynyddol, ac edrychaf ymlaen, fel eraill, at weld ei argymhellion cychwynnol yn ddiweddarach eleni.
Rwyf hefyd yn croesawu’r cyfle i gael trafodaeth bellach ac i ymgysylltu â’r Comisiwn Hapchwarae ar fater gamblo cymhellol yng Nghymru pan fyddant yn cynnal eu derbyniad i randdeiliaid yma yn y Senedd ym mis Medi. Bydd yn rhoi cyfle i Weinidogion ac Aelodau Cynulliad eraill drafod materion sy’n ymwneud â’r diwydiant hapchwarae ac yn benodol, materion yn ymwneud â gamblo cymhellol.
Mae’n amlwg o’r holl gyfraniadau a gawsom yn y ddadl heddiw—ac yn y Siambr yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yn ddiweddar hefyd, ac ar adegau eraill—ein bod yn cytuno bod yn rhaid i ni weithio gyda’n gilydd ac ar draws y portffolios. Ac mae’n amlwg nad yw’n fater y gall y GIG fynd i’r afael ag ef ar eu pen eu hunain. Rydym yn cydnabod bod yna gyfle gwirioneddol i feysydd eraill o wasanaeth cyhoeddus, fel addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector, fabwysiadu rôl arweiniol yn helpu i leihau nifer y bobl sy’n dioddef o gamblo cymhellol. Mae potensial gwirioneddol gan ddull aml-bartner o’r fath i leihau nifer yr achosion o gamblo cymhellol a’i effaith ar iechyd pobl Cymru a’r gymdeithas yn ehangach. Ac fel rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i wneud mwy y gall ei wneud i fynd i’r afael â’r pryderon ac i wneud y gorau o’r gwahanol opsiynau sydd ganddi at ei defnydd i fynd i’r afael â phroblem gamblo cymhellol. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.