Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Felly, gallwch weld. Rydym wedi clywed gan Sarah a Joseff. Nid gêm yw gamblo, mae’n broblem real iawn. Maent yn talu pris uchel amdano, ac nid hwy yw’r unig rai. Efallai eich bod wedi clywed am weithiwr post yng Nghaerdydd, Colin Chapman, a gafodd ei arestio yr wythnos diwethaf am ddwyn parseli gwerth £40,000 er mwyn ariannu ei ddibyniaeth ar gamblo. Neu efallai y byddwch yn cofio Willie Thorne hyd yn oed, cyn-bencampwr snwcer y DU a aeth yn fethdalwr ar ôl gamblo dros £1 filiwn, ond wrth gwrs, nid arian yn unig sy’n cael ei golli. Mae pobl yn colli eu cartrefi, maent yn colli eu priodasau, maent yn colli eu hiechyd oherwydd straen, ac maent yn colli eu lle a’u pwrpas mewn cymdeithas. Ac yn anffodus, mae rhai hyd yn oed wedi colli eu bywydau.
Ar 31 Mawrth y llynedd, gwisgodd Omair Abbas 18 oed o Gaerdydd ei iwnifform gwaith a dywedodd hwyl fawr wrth ei rieni a gadael cartref, ond yn anffodus, nid oedd yn ddiwrnod fel pob un arall. Lai na phythefnos yn ddiweddarach, cafodd ei ddarganfod yn farw. Roedd wedi cyflawni hunanladdiad ar ôl brwydro â gwerth miloedd o bunnoedd o ddyled. Roedd wedi mynd drwy ei orddrafft, roedd wedi tynnu credyd allan ar ei gardiau credyd, ac er iddo ymddiried yn ei ffrindiau agos ei fod yn dioddef o iselder ac wedi ystyried lladd ei hun o bryd i’w gilydd, yn anffodus nid oeddent yn gallu ei atal rhag digwydd. Rwy’n credu y dylai ei stori, ei farwolaeth, fod yn agoriad llygad i bawb ohonom.
Mae gamblo gormodol yn caethiwo pobl mewn cylch caethiwus o golli ac ennill a cholli a cholli a cholli. Fel y clywsom, gall arwain at broblemau iechyd emosiynol, ariannol a meddyliol hynod o anodd. Ond mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gaeth i gamblo’n brwydro mewn tawelwch. Ni fydd llawer o’r bobl sy’n cael trafferth gyda gamblo yn gofyn am help hyd nes eu bod yn cyrraedd pwynt o argyfwng, ac mae gwaith ymchwil diweddar yn awgrymu mai dim ond un o bob 10 o bobl sydd â phroblemau gamblo sy’n gofyn am gymorth ffurfiol mewn gwirionedd. Ond yn anffodus, yn rhy aml nid yw’r cymorth sydd ei angen arnynt ar gael iddynt bob amser.
Nawr, diolch i’r drefn, mae pobl yn dechrau deffro i’r bom amser iechyd y cyhoedd hwn, ac roeddwn yn falch iawn o glywed, gan y prif swyddog meddygol yng nghynhadledd ddiweddar Curo’r Bwci, ei fod wedi bod yn gwneud gwaith ar y pwnc hwn. Rydym hefyd yn clywed, wrth gwrs, am waith rhagorol y Stafell Fyw yma yng Nghaerdydd, a CAIS yng ngogledd Cymru, sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth o gamblo cymhellol a helpu i ddatblygu gwasanaethau i gefnogi pobl sy’n gaeth i gamblo, ac mae’n dechrau bod o fudd mawr yn awr, rwy’n meddwl. Y Stafell Fyw a CAIS, wrth gwrs, sy’n trefnu cynhadledd flynyddol Curo’r Bwci—cynhadledd Gamblo Gormodol Cymru, a gynhelir yma yng Nghaerdydd, yn y Pierhead, ac mae wedi bod yn amhrisiadwy yn dod ag academyddion, llunwyr polisi, arbenigwyr iechyd cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau at ei gilydd i archwilio’r heriau y mae’r broblem yn eu creu ac i weithio tuag at atebion. Mae wedi helpu dwsinau o bobl sy’n gaeth i gamblo hyd yn hyn, ac mae wedi arloesi a datblygu rhaglenni newydd sydd wedi helpu pobl sy’n gaeth i gamblo i newid eu bywydau. Wrth gwrs, rhaid i mi beidio ag anghofio cydnabod y gwaith rhagorol a wnaed gan Carolyn Harris a’r grŵp seneddol hollbleidiol ar gamblo hefyd.
Ymwybyddiaeth Gamblo, GamCare, Curo’r Bwci, y Stafell Fyw, CAIS—maent i gyd yn gwneud eu rhan, ond mae’n dal i fod llawer iawn o waith i’w wneud. Felly, beth y gallwn ni ei wneud? Wel, mae angen inni gyfyngu ar hysbysebu gamblo. Nid yw’n iawn fod yna hysbyseb yn eich annog i gamblo’n ymddangos bob tro y byddwch yn rhoi eich teledu ymlaen. Mae angen i ni newid y system gynllunio yma yng Nghymru er mwyn atal y cynnydd yn nifer y siopau betio yn ein cymunedau ac i atal rhagor o beiriannau betio ods sefydlog rhag ymddangos yn ein cymunedau. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth o risgiau gamblo cymhellol i iechyd y cyhoedd a buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau gwella fel y rhai a ddarperir gan Curo’r Bwci, ac mae angen i ni weithredu ar unwaith ac ar frys i ostwng uchafswm y bet ar beiriannau betio ods sefydlog a lleihau’r nifer ohonynt ar draws y wlad. Nawr, rwy’n cydnabod mai yn San Steffan y mae rhai o’r pwerau i wneud a chyflwyno’r pethau hynny, ond nid yw hynny’n ein hatal rhag gwneud ein rhan gyda’r pwerau sydd gennym eisoes, megis newid y system gynllunio a datblygu gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bawb.
Mae gormod yn y fantol i anwybyddu’r broblem hon rhagor. Mae gamblo’n dinistrio bywydau. Gall effeithio ar unrhyw un yn unrhyw le ar unrhyw adeg, ac mae ein pobl ifanc yn arbennig o agored i niwed. Felly, yn hytrach na darllen am argyfyngau sydd wedi digwydd, rwy’n meddwl bod angen i bawb ohonom weithio’n galetach i’w hatal rhag dod yn eitem newyddion yn y lle cyntaf. Er mwyn Omair, Sarah, Joseph a miloedd o bobl eraill yng Nghymru sy’n dioddef o ddibyniaeth ar gamblo, mae’n ddyletswydd arnom i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol hon, ac mae’n rhaid i ni weithredu yn awr.