<p>Datblygu Economaidd yng Ngorllewin Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 1:36, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae rhannau helaeth o fy etholaeth ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a gall y penderfyniadau a wneir gan y parc effeithio’n sylweddol ar fusnesau sy’n gweithredu naill ai’n gyfan gwbl o’i fewn, neu’n rhannol o’i fewn ac yn rhannol yng ngweddill Sir Benfro. Er fy mod yn deall bod angen rhoi ystyriaeth i brif egwyddorion y parc, mae’n hanfodol i ddatblygiad economaidd yng ngorllewin Cymru fod busnesau’n gallu tyfu ac aeddfedu. A allwch amlinellu pa gefnogaeth y gall eich adran, ynghyd ag adran Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, ei chynnig i fusnesau er mwyn sicrhau y gwneir penderfyniadau yn y modd mwyaf amserol gan y parciau cenedlaethol i leihau’r effaith economaidd ar fusnesau sy’n gweithredu yn yr ardal? Fel arall, ofnaf y bydd nifer o fusnesau yn cael eu gyrru o orllewin Cymru.