Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Tachwedd y llynedd, fe ddywedoch wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod y Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn disgwyl y byddai’r strategaeth economaidd ganddo erbyn gwanwyn 2017. Yn gynharach eleni, fe ddywedoch yn y Cyfarfod Llawn fod yn rhaid i chi aros tan i strategaeth ddiwydiannol y DU gael ei chyhoeddi ym mis Ionawr. Ar 8 Chwefror, roedd gwelliant gan y Llywodraeth i ddadl ar yr economi yn nodi:
‘cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn.’
Dywedodd y Prif Weinidog, ar 16 Mai, mewn ymateb i gwestiwn gan David Rees,
‘Rydym ni’n bwriadu cyhoeddi ein dull strategol o greu ffyniant i bawb cyn toriad yr haf.’
Ac yn olaf, ychydig wythnosau yn ôl yn unig, Ysgrifennydd y Cabinet, ar 3 Gorffennaf, yn y pwyllgor materion allanol, fe ddywedoch y byddech yn cyhoeddi’r strategaeth hon yn ystod y tymor hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma ddiwrnod olaf y tymor: ble mae’r strategaeth?