2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Galwaf nawr ar lefarwyr y pleidiau i ofyn eu cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet. Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ym mis Tachwedd y llynedd, fe ddywedoch wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod y Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn disgwyl y byddai’r strategaeth economaidd ganddo erbyn gwanwyn 2017. Yn gynharach eleni, fe ddywedoch yn y Cyfarfod Llawn fod yn rhaid i chi aros tan i strategaeth ddiwydiannol y DU gael ei chyhoeddi ym mis Ionawr. Ar 8 Chwefror, roedd gwelliant gan y Llywodraeth i ddadl ar yr economi yn nodi:
‘cynllun Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth drawsbynciol ar gyfer cefnogi twf economaidd yn nes ymlaen yn y gwanwyn.’
Dywedodd y Prif Weinidog, ar 16 Mai, mewn ymateb i gwestiwn gan David Rees,
‘Rydym ni’n bwriadu cyhoeddi ein dull strategol o greu ffyniant i bawb cyn toriad yr haf.’
Ac yn olaf, ychydig wythnosau yn ôl yn unig, Ysgrifennydd y Cabinet, ar 3 Gorffennaf, yn y pwyllgor materion allanol, fe ddywedoch y byddech yn cyhoeddi’r strategaeth hon yn ystod y tymor hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, dyma ddiwrnod olaf y tymor: ble mae’r strategaeth?
Rwy’n falch o allu rhoi gwybod i’r Aelod fod y strategaeth drawsbynciol ‘ffyniant i bawb’ wedi cael ei chymeradwyo gan y Cabinet yr wythnos hon. Mae wedi’i chwblhau. Bydd yn cael ei chyhoeddi yn gynnar yn yr hydref wedi i’r Cynulliad hwn ddychwelyd, a dros yr haf, byddwn yn ymgymryd â—[Torri ar draws.]—rhaglen helaeth i ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn mireinio’r gwaith ymhellach, yn seiliedig ar weithredu, wedi i’r strategaeth gael ei chyhoeddi.
Ar gyfer y cofnod, mae’r Aelodau’n holi hydref pa flwyddyn rydym yn sôn amdani. Felly, efallai yr hoffai Ysgrifennydd y Cabinet gofnodi hynny. Nawr, efallai mai un o’r rhesymau dros yr oedi yw oherwydd eich bod wedi gorfod ailysgrifennu’r strategaeth ar ôl canlyniadau eich penderfyniad ynglŷn â Cylchffordd Cymru. Nawr, ar 27 Mehefin, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch wrth y Cynulliad na allech gael ateb pendant gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar fater y fantolen hyd nes bod y contractau wedi cael eu llofnodi. Roedd perygl y gallech, fisoedd lawer yn ddiweddarach, fod â phrosiect ar y fantolen gyda’r holl oblygiadau a fyddai’n deillio o hynny. Rydych bellach wedi cyfaddef i mi mewn ateb ysgrifenedig fod dewis arall: gallech fod wedi gofyn am ddyfarniad dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Pam na wnaethoch chi hynny?
A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i’r Aelod am ei hwyliau da, gan mai hwn fydd ei gyfle olaf yn ystod y tymor hwn i fy holi? A gaf fi ddiolch iddo hefyd am y 12 mis rydym wedi’i gael o holi perfedd a chroesholi a chael fy arteithio, wrth inni anghytuno ar nifer o achlysuron, ond gobeithiaf ein bod wedi gallu cytuno ar nifer o bynciau hefyd? Rwy’n cydnabod ffydd yr Aelod ym mhrosiect Cylchffordd Cymru, ac rwyf hefyd yn cydnabod ei siom nad oedd modd inni ei gefnogi. Byddai bwrw ymlaen ag ef wedi bod yn gwbl anghyfrifol ar sail y risg a gyflwynwyd. Ac mewn perthynas â’r pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, gellir gofyn am gyngor dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar ddatblygiadau posibl, ond dylid gwneud hynny pan fo’r ddogfennaeth gytundebol ar ffurf sydd bron yn derfynol yn unig, ac yn dilyn penderfyniad mewn egwyddor i gynnig cefnogaeth y Llywodraeth.
Wel, Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnodd eich Llywodraeth am ddyfarniad dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol pan wnaethoch benderfyniad mewn egwyddor ynglŷn â model buddsoddi cydfuddiannol eich Llywodraeth eich hun ym mis Hydref 2016. Yn ychwanegol at hynny, onid yw’n wir, Ysgrifennydd y Cabinet, fod darpariaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd ar gyfer cynigion polisi nad ydynt ar gam bron yn derfynol? Mae eu canllawiau dosbarthu, y cyfeirioch atynt yn eich ateb i mi, yn dweud hyn:
gall adrannau llywodraeth ofyn am gyngor ar gynnig ar gam cynnar o’i ddatblygiad. Mewn achosion o’r fath, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi cyngor dros dro ar ddosbarthiad disgwyliedig y cynnig, yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd ar gael ar y pryd.
Felly, fy nghwestiwn i chi yw hwn: a ofynnoch chi am gyngor, ac a gawsoch chi gyngor dros dro gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ynglŷn â dosbarthiad disgwyliedig cynnig Cylchffordd Cymru? A gadewch i ni fod yn glir: nid wyf yn gofyn a siaradoch chi â hwy ac yna ffurfio eich barn eich hun ar sail yr hyn a ddywedasant, ond a wnaethoch chi ofyn iddynt am eu cyngor dros dro yn y termau a nodir yn eu canllawiau? A chan fod Ysgrifennydd y Cabinet yn fy ngwahodd i ddod â’r craffu i ben ar nodyn mwy cadarnhaol, a gaf fi ofyn un peth olaf iddo? Pe bai prosiect Cylchffordd Cymru yn cael ei achub o’r rwbel gan yr awdurdodau lleol yn y dinas-ranbarth—gyda’r gobaith bellach, wrth gwrs, y gallai Fformiwla 1 fod yn bosibilrwydd hefyd—a phe gofynnid i Lywodraeth Cymru, nid am ei harian, ond am ei bendith, a fyddech yn croesawu’r syniad o achub y prosiect yn y ffordd hon?
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau pellach? Wrth gwrs, yr un cwestiwn mawr rydym yn dal i aros am ateb iddo yw a yw’n cytuno â’n penderfyniad a wnaed y mis diwethaf, ac yn anffodus nid oes cytundeb, ac rwy’n siŵr fod hynny’n dangos y byddai’r Aelod wedi bod yn fodlon cymeradwyo’r prosiect, a dychwelyd yma, yn ôl pob tebyg ymhen chwe mis, i ddweud wrth y Siambr fod yn rhaid iddo gau’r drws ar dros £300 miliwn o raglenni cyfalaf, sydd, fel rwyf wedi’i ddweud yn y Siambr hon o’r blaen, yn cyfateb i 5,000 o gartrefi fforddiadwy neu 10 ysgol neu un uwchysbyty. Rwy’n galw hynny’n anghyfrifol; rwy’n galw hynny’n eithriadol o ddi-hid. [Torri ar draws.] Clywaf arweinydd UKIP—mae’r tymor clyweliadau ar gyfer pantomeimiau ar y gweill—yn dadlau o’r esgyll, ond y pwynt yw y byddai yntau hefyd wedi cymeradwyo’r prosiect hwn mewn modd anghyfrifol tu hwnt.
Y ffaith yw ein bod wedi cymryd camau cyfrifol ar bwnc dadleuol, sydd wedi tanio angerdd a safbwyntiau yn y Cymoedd, ond rydym bellach yn symud ymlaen gyda gweledigaeth glir ar gyfer Blaenau’r Cymoedd a byddwn yn ei chyflawni. Mae pobl Glynebwy, Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd wedi aros yn ddigon hir. Rydym yma i gyflawni a byddwn yn gwneud hynny.
Nid ydych wedi ateb y cwestiwn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae prosiectau seilwaith wedi cael eu gohirio’n rhy aml gan ystyriaethau gwleidyddol tymor byr, ac mae hyn yn aml wedi arwain at gostau cynyddol a chanslo prosiectau yn gyfan gwbl. Yn ogystal, pan fo lefelau uchel o ansicrwydd ynghlwm wrth gynlluniau seilwaith, o bosibl, yn aml nid yw buddsoddwyr sector preifat yn awyddus i ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer y mathau hyn o brosiectau. Pan fo’r seilwaith wedi’i gynllunio a’i ddarparu yng nghyd-destun gweledigaeth gadarn, gredadwy a hirdymor, mae’r prosiectau hyn yn aml yn denu lefel uwch o ddiddordeb a buddsoddiad sector preifat. Felly, a gaf fi ofyn, efallai yng ngoleuni digwyddiadau diweddar hefyd, i chi ailystyried rhoi’r comisiwn seilwaith cenedlaethol ar sail statudol? Byddwn hefyd yn awgrymu y byddech yn colli cyfle drwy beidio â gwneud hynny. Credaf mai’r hyn sydd angen i’r Llywodraeth ei wneud yw dangos ymrwymiad gwirioneddol i greu dull sefydlog a hirdymor o ddatblygu seilwaith yng Nghymru.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, yn ogystal â’r gwaith y bu’n ei arwain mewn perthynas ag asesu’r broses o sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru? Wrth gwrs, rydym eisoes yn defnyddio mathau arloesol o gyllid. Rydym yn gwneud hynny gyda’r gwaith o ddeuoli’r A465, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar y comisiwn seilwaith yn digwydd yn gyflym. Ar hyn o bryd, rydym yn edrych ar benodi cadeirydd ac aelodau’r comisiwn hwnnw yn gynnar yn yr hydref, ac fel rwyf wedi’i ddweud o’r blaen, byddwn yn adolygu gweithgarwch y comisiwn cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Rwyf wedi ymrwymo i wneud hynny. Hyd yn hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth symbylol wedi dod i law i’w roi ar sail statudol. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu effeithiolrwydd a chyflawniad y comisiwn erbyn diwedd y Cynulliad hwn.
Wel, carwn awgrymu, Ysgrifennydd y Cabinet, fod arnom angen dull mwy hirdymor a sefydlog yng Nghymru—yn fwy nag erioed o’r blaen. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae arnaf ofn fod Llywodraeth Cymru wedi llywyddu dros nifer o brosiectau mawr sydd wedi methu. Mae hynny wedi creu dryswch ac ansicrwydd ymhlith darpar fuddsoddwyr sector preifat, ac mae’r methiant a’r broses mewn perthynas â Cylchffordd Cymru—fel y soniodd Adam Price yn gynharach—yn un enghraifft lle y gwelwn lai o hyder, o bosibl, ymysg buddsoddwyr fod Cymru yn agored i fusnes yn wir. A ydych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn cydnabod y dylid dilyn y broses o greu’r comisiwn seilwaith drwy gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod gan y comisiwn y pwysau a’r dylanwad ychwanegol sydd eu hangen arno i gyflawni ei waith?
Fel rwyf wedi’i ddweud, byddwn yn asesu effeithiolrwydd y comisiwn erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn. Byddwn yn ei sefydlu erbyn diwedd eleni. Mae’n rhaid i mi anghytuno â’r honiad a wnaed gan yr Aelod ei bod yn ymddangos efallai nad yw Cymru yn agored i fusnes, o ystyried y canlyniadau diweddaraf ar gyfer mewnfuddsoddi, sy’n dangos, rwy’n credu, mai hon oedd y flwyddyn fwyaf llwyddiannus ond dwy. Yn wir, cyrhaeddodd y buddsoddiad o’r DU yng Nghymru y lefel uchaf erioed. Rydym yn parhau â’n hymdrechion i ddenu prosiectau mawr. Yr wythnos diwethaf, gallasom gyhoeddi buddsoddiad gan Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles—buddsoddiad enfawr a fydd yn dod â newid aruthrol i Gasnewydd ac economi de-ddwyrain Cymru, gan greu 300 o swyddi, ond hefyd, yn hollbwysig, un sy’n cynnig potensial enfawr ar gyfer ehangu. Mae hynny’n rhywbeth y byddwn yn adeiladu arno. Ers mis Mai eleni, rydym wedi cyhoeddi bod mwy na 500 o swyddi wedi’u creu eleni drwy ein cymorth ni, ac rydym hefyd yn gweithio i greu llawer mwy o swyddi ledled—a hynny yng Nghymru’n unig dros yr wyth wythnos ddiwethaf. Ond rydym hefyd yn gweithio gyda ffrwd o fuddiannau ar hyn o bryd i greu rhagor o gyfleoedd cyflogaeth dros y misoedd i ddod.
Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf fynd ar drywydd mater a gododd Adam Price yn ei gwestiwn cyntaf efallai, mae peth dryswch i mi o hyd yn hyn o beth, yn sicr mewn perthynas â ‘ffyniannus a diogel’ a’ch strategaeth economaidd. Rwy’n ymwybodol eich bod wedi dweud wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y byddech yn ei chyhoeddi yn ystod y tymor hwn; rwy’n ymwybodol eich bod wedi dweud yr wythnos diwethaf ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, y byddai’n digwydd yn yr hydref; fodd bynnag, yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener yr wythnos hon, gofynnais hynny i’r Prif Weinidog, a dywedodd y byddai ‘ffyniannus a diogel’ yn cael ei chyhoeddi yn ystod y tymor hwn. Felly, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn ddryslyd. Felly, gan gofio’r hyn a ddywedodd y Llywydd ar ddechrau trafodion heddiw, pwy sy’n iawn? Ai chi neu’r Prif Weinidog?
Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod—gallaf roi sicrwydd i’r Aelod oherwydd bod pob un ohonom yno yn y Cabinet—fod ‘ffyniant i bawb’ wedi cael ei derbyn, wedi cael ei chymeradwyo gan bob aelod o’r Cabinet ddydd Mawrth, ac y bydd yn cael ei chyhoeddi cyn gynted ag y byddwn yn dychwelyd.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Llywydd. Nid wyf yn siŵr a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio hyn, ond cyn belled yn ôl â ddoe, bûm yn eich holi ynglŷn ag argaeledd cyllid, yn enwedig ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint yn y sector ymchwil a datblygu. Yn eich tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch y byddai banc datblygu Cymru yn symud oddi wrth grantiau uniongyrchol tuag at fenthyciadau ad-daladwy. Onid ydych yn credu y byddai hyn yn peri rhwystr penodol i gwmnïau o’r fath, gan ei bod yn bosibl na fyddant yn gweld manteision ariannol eu hymchwil am sawl blwyddyn?
Wel, mae angen cydbwyso cefnogaeth uniongyrchol ar ffurf grantiau gyda benthyciadau ad-daladwy, gan fod benthyciadau ad-daladwy yn cynnig dull bytholwyrdd sy’n gallu ailgylchu buddsoddiadau i mewn i fusnesau eraill, ond rwy’n derbyn y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud, nad benthyciad ad-daladwy yw’r ateb a’r ffordd orau o gefnogi pob busnes. Am y rheswm hwnnw, byddwn yn parhau â mathau eraill o gymorth uniongyrchol, boed hynny’n grantiau, neu’n wir, yn gyngor, drwy Busnes Cymru a’r banc datblygu ei hun.
Wel, maddeuwch i mi os wyf yn parhau i ymddangos yn rhwystredig, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae gennyf gysylltiad personol ag etholwr sy’n chwilio am arian ar gyfer prosiect sydd i’w weld yn bodloni holl feini prawf Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn ymwneud â nanotechnoleg arloesol, bydd ei effaith amgylcheddol yn hynod o fuddiol ac mae ganddo botensial enfawr o ran twf, ac eto, er bod rhywfaint o arian wedi’i ddarparu o ganlyniad i’w ymgysylltiad â phrifysgolion Bangor ac Abertawe, rwyf wedi gweld drosof fy hun pa mor anodd yw cael gafael ar ragor o gyllid i sicrhau bod y cynnyrch hwn yn dwyn ffrwyth. Yn sicr, Ysgrifennydd y Cabinet, os yw Cymru am lwyddo gyda’i dyheadau i fod yn arweinydd byd yn y dechnoleg ecogyfeillgar hon, mae’n rhaid i ni sicrhau bod gennym brosesau ariannu a fydd yn caniatáu i hyn ddigwydd.
Rhaid, yn wir. Mae cyllid ymchwil yn gwbl hanfodol, a dyna pam rydym wedi bod yn glir iawn y dylai Llywodraeth y DU wneud iawn am unrhyw gyllid ymchwil a allai gael ei golli, o bosibl, pan fyddwn yn gadael yr UE. O ran y cwmni penodol y sonia’r Aelod amdano, nid yw’n glir a oes ganddynt reolwr cyfrif yn Busnes Cymru i’w cefnogi, ond byddwn yn fwy na pharod i gysylltu â’r cwmni, os gall yr Aelod ddarparu manylion yn ei gylch, a sicrhau bod Busnes Cymru yno i roi cefnogaeth a chyfeirio’r cwmni at y dull gorau o gyllido eu cynnyrch iddo allu cyrraedd y farchnad.
Diolch.