<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:51, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Ac yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, os caf fynd ar drywydd mater a gododd Adam Price yn ei gwestiwn cyntaf efallai, mae peth dryswch i mi o hyd yn hyn o beth, yn sicr mewn perthynas â ‘ffyniannus a diogel’ a’ch strategaeth economaidd. Rwy’n ymwybodol eich bod wedi dweud wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y byddech yn ei chyhoeddi yn ystod y tymor hwn; rwy’n ymwybodol eich bod wedi dweud yr wythnos diwethaf ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, y byddai’n digwydd yn yr hydref; fodd bynnag, yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ddydd Gwener yr wythnos hon, gofynnais hynny i’r Prif Weinidog, a dywedodd y byddai ‘ffyniannus a diogel’ yn cael ei chyhoeddi yn ystod y tymor hwn. Felly, mae’n rhaid i mi ddweud fy mod ychydig yn ddryslyd. Felly, gan gofio’r hyn a ddywedodd y Llywydd ar ddechrau trafodion heddiw, pwy sy’n iawn? Ai chi neu’r Prif Weinidog?