Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Diolch, Llywydd. Nid wyf yn siŵr a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cofio hyn, ond cyn belled yn ôl â ddoe, bûm yn eich holi ynglŷn ag argaeledd cyllid, yn enwedig ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint yn y sector ymchwil a datblygu. Yn eich tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch y byddai banc datblygu Cymru yn symud oddi wrth grantiau uniongyrchol tuag at fenthyciadau ad-daladwy. Onid ydych yn credu y byddai hyn yn peri rhwystr penodol i gwmnïau o’r fath, gan ei bod yn bosibl na fyddant yn gweld manteision ariannol eu hymchwil am sawl blwyddyn?