<p>Datblygu Economaidd yng Nghymoedd De Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:55, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Rwy’n siŵr y byddai’n cytuno â mi nad yw treftadaeth ddiwydiannol a gweithgynhyrchu’r Cymoedd yn rhywbeth y dylid ei chyfyngu i’w gorffennol, ond dylai fod yn ganolog i’w dyfodol hefyd. Mae heriau arbennig yn ein hwynebu o ran ymchwil a datblygu a chynhyrchiant, a gobeithiaf na fydd yn tanamcangyfrif potensial Llywodraeth Cymru i wneud ymyriadau ystyrlon a all drawsnewid rhagolygon economaidd y rhanbarth hwnnw. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y bydd yn creu sefydliad gweithgynhyrchu cenedlaethol yn yr Alban, yn seiliedig ar y ganolfan weithgynhyrchu uwch lwyddiannus iawn yn Sheffield. Mae gan yr un yn Sheffield dros 100 o bartneriaid preifat, ac mae’n cynnal swyddi tra medrus â chyflogau uchel yn y rhanbarth hwnnw. Felly, gan fod ganddo ychydig mwy o amser yn awr i chwarae â’i strategaeth economaidd dros yr haf, tybed a allai edrych ar rinweddau creu sefydliad gweithgynhyrchu arbenigol, ac ar ei leoli, wrth gwrs, yng Nghymoedd de Cymru.