2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru ar 19 Gorffennaf 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng nghymoedd de Cymru? OAQ(5)0203(EI)
Gwnaf. Yfory byddwn yn cyhoeddi ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’, cynllun gweithredu lefel uchel, sy’n adeiladu ar waith tasglu’r Cymoedd, ac yn ogystal â hyn, byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau seilwaith a sgiliau a’r amgylchedd cyffredinol ar gyfer busnes ledled Cymoedd de Cymru.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Rwy’n siŵr y byddai’n cytuno â mi nad yw treftadaeth ddiwydiannol a gweithgynhyrchu’r Cymoedd yn rhywbeth y dylid ei chyfyngu i’w gorffennol, ond dylai fod yn ganolog i’w dyfodol hefyd. Mae heriau arbennig yn ein hwynebu o ran ymchwil a datblygu a chynhyrchiant, a gobeithiaf na fydd yn tanamcangyfrif potensial Llywodraeth Cymru i wneud ymyriadau ystyrlon a all drawsnewid rhagolygon economaidd y rhanbarth hwnnw. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y bydd yn creu sefydliad gweithgynhyrchu cenedlaethol yn yr Alban, yn seiliedig ar y ganolfan weithgynhyrchu uwch lwyddiannus iawn yn Sheffield. Mae gan yr un yn Sheffield dros 100 o bartneriaid preifat, ac mae’n cynnal swyddi tra medrus â chyflogau uchel yn y rhanbarth hwnnw. Felly, gan fod ganddo ychydig mwy o amser yn awr i chwarae â’i strategaeth economaidd dros yr haf, tybed a allai edrych ar rinweddau creu sefydliad gweithgynhyrchu arbenigol, ac ar ei leoli, wrth gwrs, yng Nghymoedd de Cymru.
Rwy’n falch iawn o ddweud wrth yr Aelod fy mod eisoes wedi gwneud hynny. Yn wir, yr wythnos diwethaf cyhoeddais y bwriad i adeiladu sefydliad gweithgynhyrchu uwch yn seiliedig ar y ganolfan ymchwil weithgynhyrchu uwch yn Sheffield, ac a fydd yn cael ei ddarparu gyda Phrifysgol Sheffield a phrifysgolion yng Nghymru. Cymeradwyais y cyllid ar gyfer cam cyntaf y sefydliad yr wythnos diwethaf.
Fy ngweledigaeth hefyd, fel rhan o’r parc technoleg y byddwn yn ei ddatblygu yng Nglynebwy, yw y byddwn yn gweld canolfan ragoriaeth ar gyfer gweithgynhyrchu uwch yn cael ei ffurfio yno hefyd. Mae model y ganolfan ymchwil weithgynhyrchu uwch eisoes wedi’i brofi. Mae gan sefydliadau a busnesau fynediad at werth £0.5 biliwn o offer ymchwil. Dyna pam fod y model mor ddeniadol. Bydd y sefydliad gweithgynhyrchu ac ymchwil uwch yng ngogledd Cymru yn adeiladu ar y model hwnnw, a gellais ddangos hefyd, yn ôl yr achos busnes, y bydd y sefydliad gweithgynhyrchu ac ymchwil uwch yng ngogledd Cymru ag effaith economaidd o hyd at £4 biliwn ar werth ychwanegol gros yn yr 20 mlynedd nesaf. Rwy’n awyddus i sicrhau ein bod yn ailadrodd model o lwyddiant o’r math hwnnw yng Nghymoedd de Cymru.
Edrychaf ymlaen at graffu ar ‘Ein Cymoedd, Ein Dyfodol’ yn y Siambr hon, oherwydd yn sicr, mae arnom angen gweledigaeth drawsffurfiol ar gyfer y Cymoedd. Nid wyf yn siŵr a fyddai parc tirlun y Cymoedd yn ganolbwynt, ond gallai fod yn weledigaeth drawsffurfiol. Mae’n rhaid i ni ddechrau cydnabod gwir botensial yr adnodd hwn. Arferai’r Cymoedd fod ymhlith mannau harddaf Prydain, a byddai teithwyr o bob rhan o’r DU yn dod i baentio lluniau ac ysgrifennu barddoniaeth am y dirwedd wych hon. Dylent ddod eto, a mwy ohonynt. Cymeradwyaf y math o weledigaeth sydd gan eich cyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, ar gyfer coedwig y Cymoedd, er enghraifft. Mae potensial mawr yn hynny o beth, ac mae angen inni sicrhau yn awr fod gennym weledigaeth sy’n cyd-fynd â hynny.
A gaf fi ddiolch i David Melding am ei gwestiwn, a hefyd am gyfeirio, unwaith eto yn y Siambr hon, at bwysigrwydd llesiant i’r economi, a’r cyfraniad y gall y dirwedd naturiol ei wneud i’n llesiant? Bydd fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, yn gwneud datganiad yn y Siambr ynglŷn â’r syniad o barc y Cymoedd. Rwy’n siŵr ei fod yn syniad y byddwch yn ei groesawu’n fawr iawn, ac rwy’n siŵr y bydd yn cynnwys cryn dipyn o goedwigaeth a gweithgareddau iechyd awyr agored.
Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried y cyfraniad y mae twristiaeth yn ei wneud i ddatblygiad economaidd ledled y wlad, rwy’n falch o nodi’r llwyddiant ysgubol rydym wedi’i weld gyda’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth ledled Cymru. Ond mae’n peri pryder i mi nodi, o’r 205 o gynlluniau sydd wedi derbyn cynigion am gymorth grant o dan y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth ers mis Ebrill 2011, mai pedwar yn unig o’r rheini sydd wedi’u lleoli yn rhanbarth Cymoedd de Cymru. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Rock UK yn fy etholaeth yn un ohonynt. O ystyried yr harddwch gwledig y mae David Melding newydd fod yn siarad amdano, a threftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol gyfoethog yr ardal, a ydych yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r nifer gyfyngedig sydd wedi manteisio ar hyn yn y Cymoedd, hyd yn oed o ystyried bod y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth yn gyllidwr pan fetha popeth arall? A gaf fi ofyn a fyddech yn ystyried gwneud rhywfaint o ymchwil mewn perthynas â pham nad yw busnesau yn yr ardal hon yn barod i fanteisio ar y ffynhonnell benodol hon o gyllid ac a oes lle, mewn gwirionedd, i ehangu’r cynllun—i ehangu cwmpas y cynllun?
A gaf fi ddiolch i Dawn Bowden am ei diddordeb unwaith eto yn yr economi ymwelwyr? Yn rheolaidd yn y Siambr hon, mae Dawn wedi cydnabod gwerth posibl twristiaeth i gymunedau yn ei hetholaeth. Rhannaf ei phryderon ynglŷn â nifer y prosiectau a ariennir drwy’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth sydd wedi cael eu rhoi ar waith, mewn gwirionedd, yn y cymunedau y soniai amdanynt. Am y rheswm hwnnw, gwnaethom waith i geisio deall pam fod llai o fusnesau wedi dangos diddordeb yn y Cymoedd nag mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.
Fel rhan o’r gwaith hwnnw, rydym hefyd wedi sicrhau cyllid twristiaeth o’r rhaglen datblygu gwledig, a fydd yn ein galluogi i ddarparu cyfradd ymyrraeth uwch i fusnesau, a bydd fy swyddogion yn cynnal astudiaeth gwmpasu a rhaglen ymgysylltu gyda’r bwriad o allu datblygu mwy o atyniadau twristiaeth creadigol, diddorol ac arloesol sy’n newid delwedd yng nghymunedau’r Cymoedd.
Credaf fod yr Aelod eisoes wedi nodi un atyniad penodol sydd wedi gweddnewid pethau yn ei chymuned. Ceir llawer o rai eraill. Mae gweithgareddau sy’n seiliedig ar feicio a beicio mynydd, er enghraifft, megis Parc Beicio Cymru, wedi bod yn llwyddiannus tu hwnt ac wedi newid canfyddiadau pobl ynglŷn â’r ardal.