Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Wel, diolch am eich ateb, Gweinidog y Cabinet. Gofynnais y cwestiwn gan yr ymddengys ein bod, wedi blynyddoedd lawer o’r sefydliad hwn, yn gymharol dlotach bellach nag yr oeddem ar ddechrau datganoli. Pam, ar ôl biliynau o bunnoedd o’r hyn a elwir yn ariannu strwythurol Ewropeaidd, ein bod mewn sefyllfa o’r fath? Yn sicr, mae’n bryd mynd i’r afael â’r sefyllfa hon gydag atebion cwbl wahanol i’r rhai a ddefnyddiwyd o’r blaen. Mae’n bryd i Gymru droi oddi wrth economi sy’n cael ei dominyddu gan y sector cyhoeddus ac at un sy’n bwerdy diwydiannol dynamig sy’n cystadlu gyda’r gorau yn y byd. Mae gennym yr adnoddau, y sgiliau, a phoblogaeth weithgar, ddiwyd i sicrhau bod hyn yn digwydd. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn meddu ar y priodoleddau hynny, felly a wnaiff eu defnyddio i lywio’r chwyldro diwydiannol newydd hwn yng Nghymru ac i roi terfyn ar y cylch diddiwedd hwn o dlodi?