<p>Statws Cymru fel Rhan Dlotaf y Deyrnas Unedig</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:15, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i John Griffiths am ei gwestiwn? Rwy’n gwybod ei fod yn croesawu’r cyhoeddiad gan y Fframwaith Arfarnu Cyffredin o £30 miliwn yn ei etholaeth, a fydd yn arwain at sefydlu cyfleuster gweithgynhyrchu go fawr, a fydd yn cyflogi 300 o bobl. Mae’n werth dweud ein bod wedi llwyddo i guro mwy na 100 o leoliadau ar draws y byd i sicrhau’r buddsoddiad hwn i Gymru, gan gamu ymlaen unwaith eto a churo ein cystadleuwyr o amgylch y blaned. Nawr, bydd y cyfleuster yn galluogi’r cwmni i gydosod, profi a chomisiynu cerbydau newydd yng Nghymru. Bydd ganddo’r gallu i gyflawni prosiectau gweithgynhyrchu yn y dyfodol, yn ogystal â gweithgareddau cynnal a chadw a gwasanaethu. Pan fyddwch yn gosod hynny ochr yn ochr â datblygiad y metro a’r buddsoddiad yn y fasnachfraint nesaf, rwy’n credu bod yna gyfleoedd enfawr i ni dyfu sylfaen sgiliau yn y sector hwn a fydd yn cadw pobl mewn gwaith am genhedlaeth.