Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y cynigion a gyflwynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ynghylch dyfodol eu hystâd yng Nghymru yn golygu adleoli tua 200 o staff medrus allan o ganol tref Cwmbrân. Byddai hyn nid yn unig yn cael effaith ddinistriol ar yr economi leol yng Nghwmbrân, ond byddai’n creu anawsterau enfawr i staff â chyfrifoldebau gofalu nad ydynt yn gallu teithio i’r lleoliad arfaethedig, sef ardal Trefforest. Mae’r ffaith fod y lleoliad hwnnw wedi cael ei ddewis yn awgrymu nad oes gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fawr ddim dealltwriaeth o ddaearyddiaeth Cymru. Gwn fod y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, sydd wedi bod o gymorth mawr, wedi cyfarfod â Gweinidog y DU ddydd Iau diwethaf, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi, fel Llywodraeth, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Ond a gaf fi hefyd ofyn i chi roi sicrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwch yn gwneud popeth yn eich gallu yn bersonol i weithio gyda Julie James i gynrychioli’r staff yr effeithir arnynt gan y cynigion hyn, a fydd yn cael effaith ddinistriol ar un o rannau tlotaf Cymru?