<p>Ffyniant yng Nghymoedd De Cymru</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:18, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Mae’r Aelod yn llygad ei lle, a hoffwn ailadrodd ein siom fawr na lwyddodd yr Adran Gwaith a Phensiynau i ymgynghori â Llywodraeth Cymru cyn i’r penderfyniad gael ei wneud, heb i unrhyw atebion eraill gael eu hystyried. A gwn fod y Gweinidog yn awr wedi cyfarfod â Gweinidog Llywodraeth y DU, ac rwy’n siŵr y bydd yn darparu diweddariad ysgrifenedig i’r Aelodau yn y dyddiau nesaf ar y trafodaethau a gynhaliwyd a’r gwaith pellach a wneir yn awr. A gallaf sicrhau’r Aelod yn ogystal, os bydd unrhyw weithwyr yn cael eu diswyddo, yna byddwn yn cynnig ReAct fel ffordd o sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i waith heb gyfnod hir o ddiweithdra. Mae’n gwbl hanfodol nad oes unrhyw un yr effeithir arnynt gan hyn, sy’n cael eu gadael heb waith, yn aros yn ddi-waith am gyfnod hir o amser, a byddwn yn helpu ym mhob ffordd bosibl.