Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Mae yna gysylltiad rhwng amseroedd aros a nifer y staff sydd gennych yn gweithio yn y gwasanaeth. Mae ffigurau diweddar wedi dangos bod nifer y nyrsys a bydwragedd yn y DU sy’n gadael y proffesiwn wedi codi 51 y cant mewn pedair blynedd. O fewn y ffigurau hyn, a gyhoeddwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, gwelir mai ein nyrsys a hyfforddwyd yn y wlad hon sy’n gadael yn y niferoedd mwyaf. Nawr, mae’r Coleg Nyrsio Brenhinol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi galw am ddiddymu’r cap cyflog i atal y sefyllfa hon rhag gwaethygu. Onid ydych yn cytuno ei bod yn bryd i chi wireddu addewid maniffesto Llafur Cymru i gael gwared ar y cap, er mwyn sicrhau bod nyrsys yn aros yn eu swyddi yng Nghymru? Yn ail, drwy sicrhau eich bod yn cadw at ymrwymiad eich maniffesto, byddwch yn helpu i atal niwed pellach i ffydd pobl mewn gwleidyddiaeth.