Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Mae pwynt difrifol yn y cwestiwn y mae’r Aelod yn ei ofyn ynglŷn â’n gallu i newid a diwygio gwasanaethau cyhoeddus drwy ddewis, a deall y dewis y byddwn yn ei wneud wrth ddarparu gwasanaeth gwahanol. Ceir dadleuon ein bod eisiau i’r gwasanaeth fod wedi torri cyn ein bod yn ei drwsio. Ac rwy’n derbyn bod yna heriau diwylliannol sylweddol ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd. Felly, rhan o’n her, fel y nodoch yn gywir, yw edrych i weld ble y cafwyd y profiad hwnnw. Mae gennym waith ar y gweill, ac rwy’n sicr yn barod i wrando ar y gwasanaeth ac ar ei gyfer ac i ymgysylltu ag amrywiaeth o wahanol bobl, oherwydd mewn gwirionedd, nid yw cyflawni newid sylweddol mewn cyflogwr sector preifat mawr yn hawdd o reidrwydd, ac felly mae pethau i’w dysgu yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus hefyd. Nid yw hynny’n golygu ein bod yn ildio gwerthoedd ac ethos y gwasanaeth, ond mae angen i ni ddeall sut rydym yn cyflawni’r newid sydd ei angen yn amlwg.