<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 19 Gorffennaf 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:40, 19 Gorffennaf 2017

(Cyfieithwyd)

Nid yw ailgynllunio’r broses waith byth yn beth hawdd i’w gyflawni, ond ceir tystiolaeth dda iawn i gefnogi tactegau procio ac arwain a newid diwylliant ac maent wedi cael eu defnyddio’n llwyddiannus yn y sector preifat a’r sector cyhoedd. A byddwn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ymgysylltu â sefydliadau fel hynny, oherwydd gall pob un ohonom ddysgu, ac mae yna arferion da i’w dysgu oddi wrth y mathau hyn o sefydliadau. Er y bydd y tîm adolygu seneddol hefyd yn gweithio dros yr ychydig fisoedd nesaf ar ddatblygu map mwy manwl i gynorthwyo’r cyfeiriad teithio a nodwyd ar gyfer y GIG a sectorau gofal cymdeithasol, a ydych yn credu y dylai’r sectorau hyn barhau gyda chynlluniau cyfredol ar gyfer diwygio strwythurol? Os ydych, a oes unrhyw waith a arweinir gan y Llywodraeth i sicrhau bod unrhyw wahaniaeth rhwng diwygio strwythurol arfaethedig ar hyn o bryd a’r hyn y gallai’r adolygiad seneddol ei ddweud yn y tymor hwy yn cael ei leihau?