Part of 3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 19 Gorffennaf 2017.
Fe sonioch am eu hatebolrwydd o fewn y GIG a sut y mae’r GIG ei hun yn ceisio gwella’i hun drwy ei ddull llywodraethu ei hun. Yn ddiweddar, fe gyhoeddwyd Papur Gwyn gennych ar ddiwygio dull llywodraethu’r GIG, a thynnwyd fy sylw at bryderon go iawn, mewn gwirionedd, ynglŷn â rhai o’r awgrymiadau a wnaed, yn sicr o ran cael gwared ar gynghorau iechyd cymuned a gwneud trefniadau newydd yn eu lle ac yn benodol, y posibilrwydd y bydd gwybodaeth leol yn erydu, a hefyd diffyg sicrwydd y bydd llais cryf a pharhaus i gleifion mewn unrhyw argymhellion newydd. Ond a fyddech yn derbyn mai ffordd well ymlaen, efallai, yn hytrach na diwygio dull llywodraethu’r GIG yn awr, fyddai cael adolygiad annibynnol o reolaeth ar draws GIG Cymru i gychwyn, gan amlygu a cheisio hyrwyddo’r arferion da diamheuol sydd gennym, gan geisio cael gwared ar y drwg ar yr un pryd a defnyddio hynny fel sail ar gyfer deddfwriaeth newydd?